Artist

Lucy Purrington

Portrait of Lucy Purrington

Yn bennaf, mae fy ngwaith yn archwilio themâu iechyd meddwl drwy hunanbortreadau swrrealaidd. Gan ddefnyddio fy mhrofiad personol, rwy’n ceisio allanoli a gweddnewid fy mrwydr gydag iechyd meddwl i’w gwneud yn rhywbeth cyffyrddadwy y gall bobl uniaethu ag o. Y nod yw codi ymwybyddiaeth, cychwyn sgyrsiau a dod ag iechyd meddwl a lles allan o’r cysgodion i bob un ohonom.

Mae ffotograffiaeth yn llenwi’r gofodau y mae fy nyslecsia’n eu cerfio allan ac mae’n gadael i mi fynegi a chysylltu. Mae hefyd wedi bod yn rhagorol i’m llesiant ac mae hynny’n rhywbeth yr ydw i’n awyddus i’w rannu ag eraill. Mae hunanbortreadau wedi bod yn rhan fawr o’m harferion parhaus dros flynyddoedd lawer ond, yn fwy diweddar, rwyf wedi symud fwy at rannu fy nghrefft drwy gynnal sesiynau tiwtorial mewn ffotograffiaeth dros y ffôn, drwy ddigwyddiadau cyflwyno, drwy weithdai a thrwy fod yn guradur i weithgareddau cymunedol – cyn y pandemig wrth gwrs!

Yng nghyd-destun y cyfnodau clo lleol a’r cyfyngiadau cysylltiedig, yn fy arddangosfa fwyaf diweddar - Adlais /Echo yn The Workers Gallery yn Ynyshir, mewn partneriaeth ag un arall o’r Rhondda, Tracey Leonard, rwyf wedi bod yn dysgu am ddatblygu strategaethau rhithwir ac ar-lein i ymgysylltu â’n cymunedau lleol. Natur hyblyg ffotograffiaeth, sy’n esblygu drwy’r amser, sydd wedi ailgynnau fy mrwdfrydedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Heblaw am ffotograffiaeth, rwyf wrth fy modd yn garddio a chasglu planhigion fel sydd mor nodweddiadol o’r genhedlaeth filflwyddol.

Gwefan | Instagram

Gallery

Your Story, Your Words

Mae’r prosiect hwn wedi ei greu o eiriau oedd yn rhoddion gan ddieithriaid.

Mae ‘Your Story, Your Words’ yn brosiect parhaus am normaleiddio’r sgyrsiau o amgylch iechyd meddwl a chreu naratif ehangach am brofiadau pobl. Cychwynnodd gyda gwahoddiad ar-lein i gymryd rhan yn y drafodaeth am iechyd meddwl oedd wedi’i phostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallai pobl fynd ati’n ddienw i ddisgrifio teimlad, rhannu cerdd neu gyflwyno dim ond un gair drwy gwblhau ffurflen ar-lein syml. Yna ymatebwyd yn weledol i’r cyflwyniadau drwy hunanbortreadau ffotograffig creadigol a swrrealaidd a dynnwyd o amgylch Cymoedd De Cymru.

Mae’r prosiect yn symud o lais unigol y ffotograffydd i gorws o brofiadau ac ymgysylltiad diolch i’r cyflwyniadau caredig gan y dienw. Mae eu natur ddienw’n cysylltu eu straeon â phobl eraill, gan baratoi’r ffordd i bobl eraill deimlo eu bod wedi eu cynrychioli, bod cysylltiad rhyngddynt a’u bod yn rhan o gymuned.