Marcelo Brodsky
Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.
Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi Once@9:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.