Artist

Palani Kumar

Portrait of Palani Kumar

Yn ôl dymuniad ei fam, sy’n werthwr pysgod, penderfynodd M Palani Kumar, sy’n hanu o bentref Jawaharlalpuram yn rhanbarth Madurai, ddilyn gyrfa ym maes peirianneg. Graddiodd fel Baglor mewn Peirianneg, ac yn 2013, ag yntau yn parhau i ddilyn gyrfa mewn peirianneg, gwnaeth gais am fenthyciad a phrynu ei gamera cyntaf.

Gweithiodd fel sinematograffydd ar raglen ddogfen Kakoos? a dderbyniodd ganmoliaeth feirniadol. Roedd hon yn naratif deifiol am fywydau’r sborionwyr llaw yn Tamil Nadu. Mewn blwyddyn neu ddwy, agorodd Palani ei arddangosfa gyntaf yn Chennai, gyda ffotograffau a gymerwyd gan blant sborionwyr llaw, oedd wedi eu hyfforddi drwy weithdai Palani. Yn gymrawd o Archif y Bobl o India Wledig (PARI), mae Palani ar hyn o bryd yn dogfennu menywod y dosbarth gweithiol.

Mae Palani yn perthyn i’r Pep Collective – ffotograffwyr cymdeithasol gyfrifol yn Tamil Nadu. Derbyniodd gydnabyddiaeth fel un o’r Deg Person Gorau 2019 gan Anandha Vikatan am ei waith sydd wedi creu argraff yn gymdeithasol tros y blynyddoedd. Ym mis Mawrth 2020, derbyniodd wobr Stori Orau’r Flwyddyn – 2020, gan Gyngor Cysylltiadau Cyhoeddus India.

Ei nod yw sensiteiddio gwaith sborionwyr llaw ar gyfer byd sydd fel arall wedi ei ddad- sensiteiddio, ac mae’n gobeithio parhau i ddefnyddio ei ffurf ar gelfyddyd i daflu goleuni ar gymunedau sy’n byw ar y cyrion.

Gallery

Out of Breath

Hyd yn oed gyda system o gymalau cadw wedi ei sefydlu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n cael eu hachosi gan y system gast, mae’r llunwyr polisi a’r biwrocratiaid yn dod gan fwyaf o’r cast uwch, gan ei gwneud hi’n haws i adael i’r gweithgareddau annynol barhau hyd yn oed hyd heddiw, neu adael iddynt ddigwydd heb i neb sylwi arnynt na’u cwestiynu. Drwy ddogfennu’r straeon yma, rwyf wedi gallu taflu goleuni hanfodol ar y testun brwnt yma o sborioni â llaw. Rwyf wedi canolbwyntio gan fwyaf ar y marwolaethau sy’n digwydd wrth wneud y gwaith yma, a hefyd ar fywydau’r plant yn y teuluoedd sydd wedi eu dal yn y cythrwfl yma.