Artist

Robert Law

Portrait of Robert Law

Mae Rob Law yn ffotograffydd dogfennol sydd wedi ei seilio ym Môn.

Mae ei waith yn ymwneud â ffotograffiaeth ddogfennol ac mae’n tynnu lluniau o amgylcheddau gwledig a threfol a’r bobl sydd yddynt. Am fod cymaint o luniau tirweddau’n cael eu cynhyrchu ledled Gogledd Cymru, mae Rob yn teimlo ei bod hi’n bwysig dangos bod hwn hefyd yn fan lle mae angen i bobl fyw a gweithio.

Mae Rob wedi ymddiddori mewn ffotograffiaeth ers iddo gael ystafell dywyll pan oedd yn ei arddegau, ond dechreuodd weithio mewn ffordd fwy ymroddedig o dan fentoriaeth cydweithwyr oedd yn ffotonewyddiadurwyr. Cafodd ei annog i weithio mewn cyfresi, ac mae ei waith wedi cynnwys prosiectau mewn mannau mor amrywiol â Glasgow, Nice, Ayr . Yn fwy diweddar, yn 2020, mae wedi cynhyrchu gwaith o dan gyfnod clo cychwynnol y coronafeirws a hynny yn Llandegfan, y pentref lle mae’n byw, a chyhoeddwyd y gwaith wedyn fel llyfr bychan.

Mae Robert yn cyfrannu gwaith i Millennium Images, Llundain a chafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Portrait of Britain 2019, Gwobrau ESPY 2019 a Gwobrau Ffotograffiaeth Prydain 2019. Cafodd ei waith ei gyhoeddi yn Creative Review ac It’s Nice That, ymysg eraill.

Sefydlodd The North Wales Project yn 2019 i annog ac arddangos y ffotograffiaeth ddogfennol orau yn y rhanbarth.

Gwefan | Instagram

Gallery

Holyhead - Sea Change?

Mae Caergybi yn dref ffyrnig o annibynnol ei meddwl yng Ngogledd Cymru a chanddi gymuned glos a balch a threftadaeth gyfoethog. Mae’n borthladd mawr ac yn borth i Weriniaeth Iwerddon, ac eto mae wedi cael ei hanwybyddu ac wedi dioddef tanfuddsoddi dros y blynyddoedd. Mae hi’n wynebu sialensiau economaidd cynyddol. Yn gyffredin gyda nifer o drefi arfordirol yn y DU, pleidleisiodd Caergybi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Digwyddodd hynny er gwaethaf ei chysylltiadau arforol amlwg a’r prosiectau niferus yn yr ardal a ariannwyd gan yr UE. Gallai hyn ymddangos yn baradocs i unrhyw un o’r tu allan ac, efallai drwy arsylwi a dogfennu Caergybi mewn ffordd mor onest ag sy’n bosibl, gallwn ddechrau dod i ddeall rhywfaint o’r rhesymau pam?

Mae’r prosiect hwn wedi bod ar waith am ychydig flynyddoedd, yn gwrthod y delweddau ystrydebol o’r ardal ac yn dogfennu pethau nad ydynt yn cael eu gweld fel arall. I sicrhau bod y prosiect yn tyfu y tu hwnt i ddogfennu dim ond ‘lle’, cynhwyswyd portreadau o bobl leol, ychwanegwyd naratif cyfoethog a datgelwyd cydlyniad cymunedol cryf.

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn wedi ei gyhoeddi fel llyfr yn y dyfodol agos, gan adeiladu ar y diddordeb yn y DU a thu hwnt.