Artist

Zillah Bowes

Portrait of Zillah Bowes

Mae Zillah Bowes yn wneuthurwr ffilmiau, ffotograffydd ac ysgrifennwr
Cymraeg/Saesneg. Hyfforddodd yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS), lle derbyniodd yr Ysgoloriaeth Kodak. Cafodd ei gwaith o’i harddangosfa ffotograffau unigol Green Dark, a arianwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ei arddangos yn Arddangosfa Haf RA 2020. Dangoswyd rhagolwg yn Nifer o Leisiau, Un Genedl, dan geidwadaeth Ffotogallery a Senedd Cymru. Cafodd ei chyfres luniau cyfnod clo, Allowed, ddwy Ganmoliaeth yng Ngwobrau Ffotograffeg Rhyngwladol 2020 ac roedd
ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gelf Weledol y Gymdeithas Alpaidd yn 2021.

Roedd ffilm Zillah, Staying (Aros Mae), a gafodd ei hariannu gan Ffilm Cymru
Wales/BFI NETWORK a BBC Cymru, wedi ennill Gwobr Fawr y Rheithgor yng
Ngŵyl Ffilmiau Premiers Plans Angers a chafodd ei sgrinio’n rhyngwladol - yn cynnwys dangosiad yn ShortFest Palm Springs. Enillodd Wobr John Brabourne gan yr Elusen Ffilm a Theledu yn 2020 a Gwobr Creative Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2017. Mae hi wedi gwneud rhaglenni dogfen a fideos cerddorol sydd wedi cael eu dangos drwy’r byd i gyd ac mae hi wedi cydweithio â’r artist a enillodd wobr Turner, Martin Creed. Am ei cherddi mae hi wedi ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Wordsworth, y gystadleuaeth Poems on the Buses a’r Wobr Literature Matters gan y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.

Gallery

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Ar gyfer y prosiect ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’, mae Bowes wedi cynhyrchu cyfres o ddelweddau o gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed, a hynny yng ngolau’r lleuad. Mae ffermwyr tenant Ystâd Elan yng nghymoedd Elan a Claerwen yn cadw defaid ar y mynydd agored. Maent yn eu casglu gyda’u cymdogion, yn aml wrth farchogaeth, gan ffurfio cymuned agos a throsglwyddo ffordd draddodiadol o fyw. Mae Brexit, ynghyd â phryderon economaidd ac amgylcheddol gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, yn creu ansicrwydd i ffermwyr y dyfodol yn ucheldiroedd Cymru. Mae aelodau’r gymuned hon sydd newydd ddechrau eu bywydau fel ffermwyr yn arddel dilyniant. Yn arwyddocaol, mae sawl merch ifanc yn y genhedlaeth newydd. Gan ddefnyddio golau’r lleuad fel ei hunig ffynhonnell o olau, mae Bowes yn archwilio’r sefyllfa drothwyol hon, gan osod pobl ar y tir lle maent yn geidwaid y presennol ac yn geidwaid hanesyddol.

Yn lleol, mae pobl yn cael eu galw wrth eu henwau cyntaf ac enw eu fferm.