Arddangosfa / 6 Meh – 26 Awst 2018

1968: the Fire of Ideas - Ar Daith

Marcelo Brodsky

Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o'r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi'n ofalus er mwyn dadadeiladu'r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o'r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.

Proffil Artist

Portread o Marcelo Brodsky

Marcelo Brodsky

Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.

 Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi Once@9:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.