Prosiect

A Woman's Work

Ynghylch y Prosiect

Hyd yn hyn, nid yw’r hanes am rôl merched mewn diwydiant a gwaith technolegol yn Ewrop ar ôl y rhyfel yn stori sydd wedi cael ei hadrodd, ac mae archifau clyweledol wedi tueddu i ganolbwyntio ar ‘ddiwydiannau trwm’ lle byddai dynion yn gweithio fel y diwydiannau glo, haearn a dur, neu sectorau peirianneg graddfa fawr fel adeiladu llongau, codi adeiladau, awyrofod a gweithgynhyrchu ceir. Eto mae merched yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn llawer o’r diwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaethu – er enghraifft tecstilau, electroneg, bwyd a diod, plastigau a chynhyrchion fferyllol – realiti sydd heb ei gydnabod na’i gynrychioli’n gryf yn archifau diwylliannol Ewrop.

Mae A Woman’s Work’ yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau digidol i gywiro’r diffyg hwnnw drwy waith artistig ar y cyd a chyfnewid gwaith ar draws ffiniau, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r ffordd y mae diwydiant a’r rhywiau’n cael eu gweld fel arfer yn Ewrop. Mae’r prosiect yn archwilio’r berthynas newidiol rhwng y cartref a’r gweithle, a sectorau twf fel y diwydiant cyllid, y cyfryngau a thelegyfathrebu, lle mae gwaith merched yn cael ei ailddiffinio drwy ddatblygiadau technolegol a datblygiadau wedi’r globaleiddio.

Mae A Woman’s Work yn rhaglen gydweithredol 24 mis, wedi’i hariannu gan Creative Europe, lle mae partneriaid diwylliannol yn y Deyrnas Unedig, Lithwania, Iwerddon, Ffrainc, y Ffindir a’r Almaen yn cydweithio i geisio cyflawni’r amcanion hyn:

  • galluogi artistiaid a phobl broffesiynol mewn diwylliant ledled Ewrop i gydweithredu ar gyfer gwneud a chyflwyno gwaith newydd i gynulleidfaoedd sy’n canolbwyntio ar wyneb newidiol menywod a swyddi yn Ewrop, gan rannu arferion a phrofiad proffesiynol ar blatfformau ffisegol ac ar-lein.
  • creu cyfleoedd newydd ar gyfer cyfnewidiad artistig o fewn Ewrop, cynyddu symudedd artistiaid a phobl broffesiynol mewn diwylliant, gan ddefnyddio ein rhwydweithiau a’n cysylltiadau ein hunain i estyn at gynulleidfa ehangach a chael effaith fwy estynedig.
  • defnyddio platfform digidol European Prospects i gyflwyno’r prosiect i gynulleidfa fyd-eang, er mwyn ysgogi trafodaeth sy’n herio’r brif ffordd y gwelir diwydiant a’r rhywiau yn Ewrop, ac annog a chefnogi rhagor o gydweithredu trawswladol y tu hwnt i fywyd y prosiect.

Yn dilyn gweithdy cynllunio cychwynnol yn Kaunas, Lithwania ym mis Hydref 2018, lansiwyd galwad agored am gynigion a dewisodd y partneriaid 20 o brosiectau artistiaid i gael eu dangos ar y llwyfan ar-lein ac mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau. Dyma nhw:

Yn ystod 2019/2020 mae cyfres o gomisiynau/preswyliadau i artistiaid a churaduron, yn cael eu gweithredu, dan ofal y partneriaid, a chynhaliwyd symposiwm cyntaf A Woman’s Work yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2019. Mae crynodeb o’r gweithgaredd hwn ar gael yma.

Partneriaid

Ffotogallery (Caerdydd, Cymru)

Sefydlwyd Ffotogallery yn 1978 a dyma’r asiantaeth datblygiad cenedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru. Rydym yn edrych tuag allan, gyda rhaglen o arddangosfeydd yn arddangos artistiaid o Gymru a gweddill y byd. Mae Ffotogallery yn ceisio ehangu ei effaith a’i ddylanwad drwy arddangosiadau teithiol, gwaith cydweithredol gyda mudiadau ac orielau eraill, cyhoeddi mewn print ac ar-lein a rhaglen addysg ac allgymorth eang. Rydym wedi cychwyn ac rydym yn parhau i redeg yr ŵyl ddwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd. Mae gan Ffotogallery bolisi gweithredol o gomisiynu gwaith newydd sydd, yn arbennig, yn darparu system gefnogi hanfodol i ffotograffwyr ac artistiaid gwaith lens yng Nghymru, gan ffurfio cofnod parhaus o ddiwylliant yng Nghymru ac adlewyrchu’r prif agweddau a datblygiadau mewn ffotograffiaeth yn fwy cyffredinol.

Undeb Artistiaid Ffotograffiaeth Lithwania (Kaunas, Lithwania)

Cafodd yr Undeb ei sefydlu yn 1933 a’i ail enwi yn Undeb Ffotograffwyr Celf Lithwania yn 1989 (sy’n ei gyfeirio ato’i hun fel Cymdeithas Ffotograffwyr Lithwania). Mae’r sefydliad yn trefnu arddangosfeydd ffotograffiaeth, seminarau a gweithgareddau i gefnogi ffotograffwyr, yn arbennig i annog cenhedlaeth iau o ffotograffwyr i barhau’r traddodiad o ffotograffiaeth o Lithwania. Mae Oriel Ffotograffiaeth Kaunas wedi ei lleoli yng nghalon Hen Dref ganoloesol Kaunas. Mae’r oriel yn un o’r mannau arddangos celf mwyaf pwysig yn Lithwania a’r Taleithiau Baltig, sy’n ymroddedig i ffotograffiaeth a chelf gyfoes. Mae’r gofod di-elw hwn yn cyflwyno prosiectau cyfoes arloesol yn ogystal ag arddangosfeydd ffotograffiaeth traddodiadol. Mae’r sefydliad yn ymgysylltiol â Gŵyl Ffotograffiaeth Kaunas, sy’n ddigwyddiad rhyngwladol blynyddol.

Gallery of Photography (Dulyn, Iwerddon)

Sefydlwyd Gallery of Photography yn 1978 a dyma’r ganolfan genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes yn Iwerddon. Mae wedi ei lleoli mewn adeilad sydd wedi ennill sawl gwobr yn Temple Bar ynghanol dinas Dulyn. Mae rhaglen yr oriel o arddangosiadau wedi eu curaduro yn arddangos gwaith gan artistiaid Gwyddelig a rhyngwladol newydd a rhai sydd wedi eu hen sefydlu. Mae’r sefydliad hefyd yn darparu ystafelloedd tywyll a stiwdio ddigidol gyda’r holl offer angenrheidiol, lle mae modd cynhyrchu printiau a sganiau o safon arddangosiad i’r lefelau uchaf. Mae’r Oriel hefyd yn cynnal cyrsiau ffotograffiaeth, dosbarthiadadau meistr a gweithdai ac mae’n gartref i siop lyfrau ffotograffau blaenllaw Iwerddon.

Mae Oriel Ffotograffiaeth Iwerddon yn sefydiad di-elw sydd wedi ei chefnogi gan y Cyngor Celfyddydau a Chyngor Dinas Dulyn.

Le Château d’Eau (Toulouse, Ffrainc)

Sefydlwyd y mudiad di-elw Le Château d’Eau – sef twr dŵr gynt sydd yn awr yn un o ganolfannau ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw Ffrainc – gan y ffotograffydd o Ffrancwr Jean Dieuzaide yn 1974. Daeth Le Château d’Eau yn gydnabyddedig yn rhyngwladol am arddangos gweithiau gan artistiaid clodfawr fel Lee Friedlander, Walker Evans, Edward Weston, Robert Doisneau, Brassaï a Cartier-Bresson. Gyda detholiad o waith gan artistiaid enwog a newydd mae Le Château d’Eau yn lle i gynhyrchu a dosbarthu: arddangosfeydd, cyhoeddi llyfrau, cyfryngu a chanolfan adnoddau. Mae deg i ddeuddeg o arddangosfeydd yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt o bwysigrwydd rhyngwladol. Ar sail ei brofiad a’i berthynas arbennig gyda gwahanol artistiaid, mae Le Château d’Eau yn weithredwr diwylliannol yn Ewrop sy’n chwilio drwy’r amser am bartneriaethau creadigol newydd.

Whack 'n' Bite (Y Ffindir)

Mae Whack ´n` Bite yn gynulliad a sefydlwyd yn ddiweddar gyda dau aelod sylfaenu (y curadur Tuula Alajoki a’r artist gweledol / dylunydd Johanna Havimäki) o’r Ffindir. Fel band gweledol mae Whack ´n´ Bite yn croesawu artistiaid a chydweithwyr i gydweithio ar brosiectau ac ynghylch prosiectau sy’n ymwneud â mynegiant ffotograffig. Mae gan Alajoki a Havimäki gefndir mewn celfyddydau gweledol a phrofiad o ddatblygu cynnwys, cynhyrchu celf a chydweithio’n rhyngwladol. Yn 2012–2018 Alajoki oedd cyfarwyddwr yr ŵyl deirblynyddol Gŵyl Ffotograffiaeth Backlight. Mae Whack ´n´ Bite yn cyfranogi yn y cyfrifoldebau curaduro yn ogystal â datrysiadau gweledol gyda’r partneriaid sy’n trefnu’r ŵyl, gyda’r nod o estyn A Woman´s Work ymhellach i’r gogledd.

Fotosommer Stuttgart e.V. (Yr Almaen)

Mae Fotosommer Stuttgart yn sefydliad di-elw i hybu ffotograffiaeth gyfoes. Mae Fotosommer yn trefnu gŵyl ryngwladol o ffotograffiaeth bob tair blynedd yn Stuttgart, gan gynnwys arddangosfeydd ffocal, rhaglen o wobrau ffotograffiaeth cystadleuol, yn ogystal â digwyddiadau sy’n cyd-fynd â nhw ar draws y ddinas. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosiadau ffotograffig, gweithdai, darlithoedd, trafodaethau, sesiynau gwybodaeth, teithiau gyda thywysydd a fforwm. Fotosommer yw un o’r digwyddiadau ffotograffiaeth mwyaf yn yr Almaen ac mae’n sicrhau lefelau uchel o gyfranogaeth gan artistiaid ledled Ewrop. Yn ystod y blynyddoedd pan nad oes gŵyl, mae Fotosommer yn trefnu amrywiaeth o arddangosfeydd, gweithdai a phrosiectau.