Dal a Chreu – Hunlun Perffaith
Yr ail yn rhaglen Ffotogallery o weithdai haf i’r teulu cyfan, a gynhelir yn Nhŷ Turner, Penarth.
Archwiliwch beth yn union yw diben hunlun. Tynnwch rai eich hunan a’u defnyddio i ddylunio poster arddangosfa sy’n gyfan gwbl amdanoch chi. Bydd y sesiwn alw-heibio hon yn rhoi i chi a’r holl deulu y sgiliau i allu creu’r hunlun perffaith, gyda gweithgareddau ar gyfer pob oed.
Darperir yr holl ddefnyddiau. Rhaid i blant o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Rydym yn ymfalchïo bod gennym bolisi talwch-hynny-a-allwch. Croeso i bawb fynychu, a byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad ariannol. Da chi, bwciwch le o flaen llaw er mwyn i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddefnyddiau ar gyfer y diwrnod.
Gresynwn mai dim ond llawr isaf yr oriel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd ac nad oes gennym gyfleusterau toiled ar y llawr hwn. Ffoniwch ni ar 029 2034 1667 os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am hygyrchedd.