Digwyddiad / 31 Mai 2018

Sgyrsiau ‘Chronicle’ – Project y Cymoedd

Sgyrsiau ‘Chronicle’ – Project y Cymoedd
Gilfach Goch From The Valleys Project 1985 © Francesca Odell

Ymunwch â ni am y sgwrs gyntaf mewn cyfres a drefnwyd i gydfynd â’n harddangosfa gyfredol, ‘Chronicle’.

Bydd Dr Paul Cabuts, ffotograffydd a Chymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn trafod Project y Cymoedd ac yn sôn am 10 o’i hoff weithiau o’r gyfres o gomisiynau.

Sefydlodd Ffotogallery Broject y Cymoedd yn wreiddiol ym 1984 fel menter unigryw i ddogfennu’r hyn sydd, mae’n rhaid, yn un o dirweddau diwydiannol harddaf gogledd Ewrop. Yn ystod pum mlynedd y project, hyd at 1990, llwyddwyd i ddwyn ynghyd waith ffotograffwyr a oedd yn byw yng Nghymru a rhai o gylch ehangach, i greu cofnod gweledol cyfoes a sylwebaeth gymdeithasol a oedd yn cwmpasu rhan ddaearyddol eang o gymoedd de Cymru.

Mae ‘Chronicle’ yn manteisio ar ddeunydd archifol a chyfoes a’i ddefnyddio i adrodd hanes datblygiad Ffotogallery dros y deugain mlynedd diwethaf, yn erbyn cefndir o newid yn natur a swyddogaeth ffotograffiaeth mewn cymdeithas, a thwf y diwylliant digidol. Mae’r arddangosfa’n para tan Awst y 4ydd, ac mae’n rhan o ddathliadau’r deugainmlwyddiant yn ystod 2018.

ARCHEBU NAWR