Prosiect

Diffusion 2017: Revolution

Diffusion 2017: Revolution
© kennardphillipps
Diffusion 2017: Revolution
© Tatiana Vinogradova
Diffusion 2017: Revolution
© Esther Hovers

Mae Diffusion 2017 yn ystyried ‘chwyldro’ yn ei gyd-destun ehangaf, gan ymchwilio i adegau o newid cymdeithasol a mudiadau’n ymwneud â rhyddid mynegiant, cyrchu iwtopia, hawliau dynol a hunaniaeth. Trwy brism ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens, archwilir newidiadau dramatig a phell-gyrhaeddol y can mlynedd diwethaf i’n ffordd o fyw – rhai technolegol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae Cyfarwyddwr Diffusion a Ffotogallery, David Drake, yn egluro pam y dewisodd y thema:

“Mewn cyfnod o newid aruthrol, ofn ac ansicrwydd ledled y byd, teimlwn ei bod hi’n bwysig i Diffusion 2017 edrych ar adegau o newid diwylliannol a chymdeithasol yn fwy eang, archwilio syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau, yn enwedig rhai sy’n her i’r drefn sefydliedig. Dangos sut y gall mentro ac arbrofi, cydweithio a gweithredu torfol, a siarad dros yr hyn mae dyn yn credu ynddo achosi trawsnewid adeiladol, a bod yn rym er gwell yn hytrach nag er gwaeth.”