Opportunity / 8 Chwef – 17 Chwef 2019

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Clywedol a Gweledol & Digidol)

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Clywedol a Gweledol & Digidol)

Bydd deiliad y swydd yn ffocysi ar gefnogaeth glywedol, gweledol a digidol ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau, gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr, Rheolwr yr Arddangosfeydd, Cydlynudd y Cynhyrchiad, a Chynhyrchydd y Digwyddiadau. Gan mai thema Diffusion yw Sain+Gweledigaeth, mae yna nifer o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau sy’n cyfuno cyfryngau electroneg, gweledol a chlywedol, gyda deunyddiau ffotograffiaeth cyffredin. Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Cwblhau archwiliad llawn o offer A/V, electroneg a meddalwedd
  • Cadw a datblygu system storio/ arwyddo i fewn ac allan o offer
  • Cynorthwyo gyda diweddaru a thrwsio meddalwedd a gyriannau caled
  • Gosod A/V ac offer goleuo ar gyfer arddangosfeydd, pan fod angen
  • Cynrothwyo gyda golygu ffeiliau sain/fideo pan fo angen
  • Goruchwylio, gwerthu, a chefnogi mewn amrywiaeth o leoliadau

APPLY HERE