Arddangosfa / 28 Ebr – 11 Mai 2023

Faadi / Y Stafell Fyw / The Living Room

Mae Faadi/Y Stafell Fyw/The Living Room yn brosiect ffotograffiaeth a ffasiwn rhwng y cenedlaethau sy’n rhannu lleoliadau teuluol personol yng nghartrefi pobl Somali-Gymreig. Mae pwyslais y prosiect ar ddathlu ac mae’n cynnwys delweddau o fodelau lleol ifanc mewn gwisgoedd priodferch, aelodau o’r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah Dhaqan a Diraq, brawdoliaeth a gwrywdod meddal a’r ddawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Bu tua 40-50 o aelodau’r gymuned yn cymryd rhan yn y sesiwn dynnu lluniau hon, naill ai fel modelau, dawnswyr neu’n darparu deunyddiau a dillad traddodiadol. Dyma’r prosiect cyntaf rhwng y cenedlaethau sy’n arddangos profiad a bywyd y Somaliaid Cymreig gyda phwyslais ar fenywod ifanc y gymuned. Mae adfywiad y ddawns draddodiadol Ciyaar Somali yn y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfle gwych i aelodau iau’r gymuned gysylltu â’u treftadaeth ddiwylliannol, ac fel priodas a dawns ddathlu, roeddem yn credu ei bod yn bwysig dogfennu’r adeg hynod bwysig hon i’r gymuned Somali-Gymreig yng Nghaerdydd.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, a Young Queens. Mae Al Naeem yn gylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf pobl Ddu a Mwslimaidd. Mae Young Queens yn grŵp celfyddydol i fenywod ifanc Somali-Gymreig o Gaerdydd, a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, gyda chefnogaeth ariannol y Loteri Treftadaeth.

Clodrestr

Cyfarwyddwyd gan Asma Elmi

Uwch Gynhyrchydd: Izzy Rabey

Ffotograffydd: Yasmin Jama

Fideograffydd: Saif

Steilydd a Chynllun y Set: Asma Elmi, Haida Hamidi

Cast: Young Queens, Marwah Ahmed, Nadia Nur, Muna Ali, Mohamed Hassan, Kamal Yussuf

Diolch yn fawr i: Cylchgrawn Al Naaem, Young Queens, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, Heavenly Boutique, Blossom Bay Events