Arddangosfa / 1 Ebr – 30 Ebr 2019

Go Home, Polish

Michal Iwanowski

Go Home, Polish
© Michal Iwanowski

“Yn 2008, fe ddes ar draws graffiti ar wal ger lle ro’n i’n byw yng Nghaerdydd. ‘Pwyliaid, Ewch Adre’. Dyna oedd y neges. Bues i’n pendroni dros y peth am sbel. Ro’n i ‘chydig yn ansicr – a ddylwn i hel fy mhac i rywle arall neu ai dyma lle’r oedd fy nghartref. Yn 2016 â refferendwm Brexit yn rhwygo Prydain a thon o genedlaetholdeb eithafol yn sgubo ar draws Ewrop, roedd rhywbeth llawer mwy bygythiol am y slogan yna. Roedd yn rhaid i fi ymateb iddo. Yn llythrenol”.

Ym mis Ebrill 2018, fe gychwynodd Michal Iwanowski ar siwrne. Taith gerdded 1900km rhwng ei ddau gartref, Cymru a Gwlad Pwyl; gyda phasbort Prydeinig yn un llaw, pasbort Pwylaidd yn y llall. Fe dynnodd linell syth ar y map, ac ar ôl cael gafael mewn pâr o sgidiau cerdded cryf, fe gamodd allan o’i fflat yng Nghaerdydd, troi tua’r dwyrain, ac i ffwrdd â fe: Cymru. Lloegr. Ffrainc. Gwlad Belg. Yr Iseldiroedd. Yr Almaen. Y Weriniaeth Tsiec. Gwlad Pwyl. Ei fwriad oedd holi pobl ar hyd y ffordd am ystyr ‘cartref’. Beth mae hynny’n ei olygu?

Fe gymerodd y siwrne 105 o ddyddiau o’i dechrau i’w diwedd.

Er bod Michal wedi rhagweld gwrthdaro, eithafiaeth ac eithafion, a phob math o broblemau lletchwith, nid dyna fu hanes ei gyfarfyddiadau ar hyd y ffordd. Yn hytrach, fe gafodd atebion personol ac ystyrlon i’w gwestiwn; ymatebion rhwng cyd-ddyn a chyd-ddyn yn hytrach na sgyrsiau rhwng dinesydd â thramorwr. ‘Bron yn ddi-eithriad, fe fyddai pob un a holais yn rhoi ei law ar ei chalon neu ar ei galon wrth ddangos i fi lle’r oedd ‘gartre’. Roedd sawl un yn awyddus i gyd-gerdded gyda fi. Prin iawn fu unrhyw sgwrs am genedlaetholdeb. Dim ond unwaith y ces fy erlid’.

Ar hyd y ffordd, fe grebachodd unrhyw arwyddocâd a fu gan y slogan ‘Pwyliaid, Ewch Adre’ nes ei fod yn amherthnasol. Er hynny, fe benderfynodd Michal ei gadw fel teitl a rhyw fath o echel symbolaidd i’r prosiect: yn her i ddefnydd iaith sy’n anwybyddu’r profiad dynol wrth fynnu labeli’r ‘dieithr’ a’r ‘estron’; ac fel ffordd o osgoi cyffredinoli’r profiad dynol ac edrych ar yr agenda geowleidyddol trwy lygaid a phrofiad pob unigolyn.

Ac felly, ble mae ‘gartre’? Mae’n anodd cael gafael ar ateb. Mae’n gymleth. Mae’n benbleth llithrig sy’n drech nag amser a gweinyddiaeth.

Dyma yw hiraeth. Dyma yw heimet. Cartref.

Proffil Artist

Portread o Michal Iwanowski

Michal Iwanowski

Mae Michal Iwanowski yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ac artist gweledol wedi ei seilio yng Nghaerdydd. Graddiodd gydag MFA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 2008, ac mae wedi bod yn datblygu a dangos ei waith ers 2004. Enillodd ddyfarniad Ffotograffydd Newydd Addawol gan y Magenta Foundation, a dyfarnwyd Gair o Ganmoliaeth iddo yn y Px3 Prix De Photographie, Paris. Mae wedi derbyn grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru am ei brosiectau Clear of People a Go Home, Polish, a chafodd y ddau eu henwebu ar gyfer Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse - yn 2017 am ei lyfr ‘Clear of People,’ ac yn 2019 am yr arddangosfa Go Home Polish yn Peckham24. Cafodd ei waith ei arddangos a’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd, ac mae nifer o sefydliadau wedi sicrhau darnau o’i waith ar gyfer eu casgliadau parhaol, yn cynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol.