Arddangosfa / 29 Gorff – 7 Awst 2021

Green Dark

Zillah Bowes

Green Dark
Elinor ‘Rhiwnant’ ac Alice

Mae artist Zillah Bowes yn esbonio: "Mae golau’r lloer yn gadael i mi arafu a phrofi curiad bregus y planhigion, a’r dirwedd sy’n eu cynnwys. Mae Green Dark yn gais i gymryd fy mhrofiadau o fewn ac o amgych Ystâd Elan ger Rhaeadr Gwy, yng Nghanolbarth Cymru, a’u cyfleu mewn lluniau. Hoffwn i’r ffotograffau hyn fod yn llais i blanhigion a mwyhau eu curiad am na allan nhw wneud hynny eu hunain, hynny ydy, ei wneud yn ddiofyn. Rwy’n cael fy nhywys gan amrywiaeth ddwyfol yr anifeiliaid hynny sy’n cael eu cynnal gan y planhigion ac sydd mewn perygl o gael eu colli.

"Mae’r un dirwedd yn cynnwys ac yn cynnal cymuned unigryw a hanesyddol o bobl, y mae eu harferion ffermio mynydd agored, o ffermydd tenant, yn eu gwreiddio drwy gyfrwng eu hynafiaid ac yn golygu eu bod yn parhau i berthyn iddi. Mae Green Dark yn cynnig gofod – nad yw’n dywyllwch nac yn oleuni – i archwilio’r planhigion a’r bobl sy’n byw yno, a’r pontio sydd rhyngddyn nhw, yn rhan o sefyllfa anghysurus yr ansicrwydd o ran hinsawdd sydd o’u blaenau."

Proffil Artist

Portread o Zillah Bowes

Zillah Bowes

Mae Zillah Bowes yn wneuthurwr ffilmiau, ffotograffydd ac ysgrifennwr
Cymraeg/Saesneg. Hyfforddodd yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS), lle derbyniodd yr Ysgoloriaeth Kodak. Cafodd ei gwaith o’i harddangosfa ffotograffau unigol Green Dark, a arianwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ei arddangos yn Arddangosfa Haf RA 2020. Dangoswyd rhagolwg yn Nifer o Leisiau, Un Genedl, dan geidwadaeth Ffotogallery a Senedd Cymru. Cafodd ei chyfres luniau cyfnod clo, Allowed, ddwy Ganmoliaeth yng Ngwobrau Ffotograffeg Rhyngwladol 2020 ac roedd
ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gelf Weledol y Gymdeithas Alpaidd yn 2021.

Roedd ffilm Zillah, Staying (Aros Mae), a gafodd ei hariannu gan Ffilm Cymru
Wales/BFI NETWORK a BBC Cymru, wedi ennill Gwobr Fawr y Rheithgor yng
Ngŵyl Ffilmiau Premiers Plans Angers a chafodd ei sgrinio’n rhyngwladol - yn cynnwys dangosiad yn ShortFest Palm Springs. Enillodd Wobr John Brabourne gan yr Elusen Ffilm a Theledu yn 2020 a Gwobr Creative Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2017. Mae hi wedi gwneud rhaglenni dogfen a fideos cerddorol sydd wedi cael eu dangos drwy’r byd i gyd ac mae hi wedi cydweithio â’r artist a enillodd wobr Turner, Martin Creed. Am ei cherddi mae hi wedi ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Wordsworth, y gystadleuaeth Poems on the Buses a’r Wobr Literature Matters gan y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.