Digwyddiad / 1 Hyd – 26 Hyd 2022

Cystadleuaeth Ffotograffau Calan Gaeaf

Rydym yn cynnal cystadleuaeth ffotograffau Calan Gaeaf arswydus o Hydref y 1af!

Anfonwch eich ffotograffau mwyaf arswydus, iasoer a bwganllyd atom er mwyn cael cyfle i ennill pethau da gan Ffotogallery! Gallwch fod yn greadigol gyda gwisgoedd ac arbrofi gyda goleuadau i greu ffotograffau bendigedig o frawychus. Byddwn yn rhannu ein hoff rai ar y cyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod mawr – a bydd yr holl geisiadau wedi eu cynnwys mewn oriel ar-lein arbennig ar ein gwefan.

Anfonwch eich ceisiadau i [email protected] erbyn Dydd Mercher 26ain Hydref i gael cyfle i ennill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw ac o ble y dewch chi yn eich e-bost. Dim mwy na 2 gais fesul person.

Bydd y wobr gyntaf yn cynnwys bag cario, copi o lyfr Ffotogallery, Chronicle, bathodyn pin Ffotogallery a phrint o’ch ffoto mewn ffrâm. Bydd y rhai sy’n dod yn agos at ennill yn derbyn bathodyn pin Ffotogallery.