Arddangosfa / 21 Ion – 19 Chwef 2022

Invisible Britain - This Separated Isle

Paul Sng

Wrth i COVID-19 gael effaith enfawr ar draws y byd, roedd yr holltau a ddatgelwyd gan Brexit, Black Lives Matter a lefelau cynyddol o droseddau casineb oherwydd hil wedi datgelu rhwygiadau chwerw yn y gymdeithas Brydeinig. Yn y cyfnod ar ôl y pandemig, a gyda’r cwestiynau am rannu’r Deyrnas Unedig yn gwrthod diflannu, sut mae pobl drwy Brydain gyfan yn dewis llywio drwy’r tensiynau yn y tir rhanedig hwn?

Mae This Separated Isle yn archwilio sut mae syniadau am ‘Brydeindod’ yn dangos amrywiaeth gynhwysol o safbwyntiau a dealltwriaeth am ein cymeriad cenedlaethol. Mae wedi ei seilio ar y llyfr Invisible Britain: This Separated Isle, sy’n cynnwys amrywiaeth fawr o bortreadau ffotograffig hynod o ddiddorol o bobl ar draws y DU a’u straeon cysylltiedig, ac mae’r arddangosfa bwysig hon yn archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth a chenedligrwydd, gan ddatgelu nid yn unig beth sy’n ein rhannu ni, ond hefyd y clymau sy’n ein rhwymo at ein gilydd fel cenedl.

Curadur y prosiect yw Paul Sng, ac mae’r dangosiad cyntaf hwn o’r arddangosfa yn y DU wedi ei gynhyrchu a’i gyflwyno gan Ffotogallery.

Dyma’r ffotograffwyr sy’n cymryd rhan:

Alecsandra Dragoi
Alicia Bruce
Amara Eno
Andy Aitchison
Arpita Shah
Chris Leslie
Christine Lalla
Ciara
Faraz Pourreza-Jorshari
Fiona Yaron-Field
Gina Lundy
Ilisa Stack
Inès Elsa Dalal
Jim Mortram
Jenny Lewis
Joanne Coates
Kat Dlugosz
Kate Nolan
Kirsty Mackay
Kris Askey
Lisa Wormsley
Maisie Marshall
Marc Davenant
Margaret Mitchell
Marie Smith
Mario W. Ihieme
Mark Parham
Nicola Muirhead
Rhys Baker
Robert Law
Roland Ramanan
Sally Low
Dr Yan Wang Preston

Proffil Artist

Portread o Paul Sng

Paul Sng

Mae Paul Sng yn wneuthurwr ffilmiau ac ysgrifennwr o ddwy hil, Prydeinig a Tsieineaidd, sydd wedi ei seilio yng Nghaeredin, Yr Alban, ac mae ei waith wedi ei yrru gan ymchwil trefnus, adrodd straeon creadigol a dull cydweithredol sy’n ymdrechu i gael cynhwysedd ac amrywiaeth mewn pobl a phrosiectau. Yn 2015, aeth Paul ati i sefydlu Velvet Joy Productions i archwilio bywydau a gwaith unigolion sydd wedi cael eu hesgeuluso, eu hymyleiddio neu eu camgynrychioli yn y celfyddydau a’r cyfryngau. Mae rhaglenni dogfen Paul wedi cael eu darlledu ar y teledu cenedlaethol a’u dangos yn rhyngwladol ac maen nhw’n cynnwys Sleaford Mods – Invisible Britain (2015), Dispossession: The Great Social Housing Swindle (2017), Social Housing, Social Cleansing (2018) a Poly Styrene: I Am a Cliché (2021).