Digwyddiad / 18 Chwef – 19 Chwef 2022

Invisible Britain - This Separated Isle Penwythnos Cloi

Paul Sng, Zara Mader, Nicola Heywood-Thomas, Robert Law, Inès Elsa Dalal, Mymuna Soleman

18/2/22 - DIGWYDDIAD NOS WENER WEDI EI GANSLO

Yn anffodus, oherwydd y tywydd drwg, rydym wedi gorfod canslo sgrinio Poly Styrene heno. Rydym yn gobeithio bwrw ymlaen â'r ddigwyddiadau yfory (Dydd Sadwrn 19 Chwefror) a gallwch weld yr amserlen newydd isod:

Sadwrn 19 Chwefror

12.00pm - Drysau'n agor

12.15pm - Sgwrsio â Paul Sng a Zara Mader

1.15pm - Sgrinio ffilm - Poly Styrene: I Am A Cliché

3.30pm - Egwyl

3.45pm - Trafodaeth y Panel: This Separated Isle

5pm - Cloi

Gwelwch ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf.
Instagram | Twitter | Facebook

---

Mae’n destun balchder mawr i Ffotogallery ein bod yn cyflwyno penwythnos sy’n orlawn â digwyddiadau wedi eu seilio o amgylch themâu ein harddangosfa bresennol, Invisible Britain - This Separated Isle, dan ofalaeth Paul Sng. Mae’r digwyddiadau hyn yn nodi’r penwythnos cloi a dyma fydd y cyfle olaf i ymweld â’r arddangosfa sy’n archwilio cysyniadau am ‘Brydeindod’, yn cynnwys amrywiaeth fawr o bortreadau ffotograffig gwefreiddiol o bobl o’r DU gyfan, ochr yn ochr â’u straeon nhw eu hunain. Cofiwch roi’r dyddiadau yn eich dyddiadur da chi!

Poly Styrene oedd y fenyw gyntaf o liw yn y DU i ganu ar flaen band roc llwyddiannus. Cyflwynodd sain newydd o wrthryfela i’r byd, gan ddefnyddio ei llais anghonfensiynol i ganu am hunaniaeth, prynwriaeth, ôl-foderniaeth a phopeth a welodd yn datblygu ym Mhrydain ar ddiwedd y 1970au, gyda rhagwelediad prin. Fel cantores flaen X-Ray Spex, roedd y pync-gerddor Eingl-Somali hon yn ysbrydoliaeth allweddol i’r symudiadau riot grrrl ac Afropunk.

Mae Paul Sng yn wneuthurwr ffilmiau o dras Brydeinig a Tsieineaidd sy’n canolbwyntio ei waith ar bobl sy’n herio’r status quo.

Mae Zara Mader yn ffotograffydd sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith yn cynnwys cyfres o bortreadau o fenywod a gafodd eu hysbrydoli gan gerddoriaeth yr eicon o’r byd pync, Poly Styrene.

Bydd ein trafodaeth panel yn edrych ar rai o’r materion sy’n derbyn sylw yn y llyfr, fel ‘Prydeindod’ a ‘gwahaniad’, ac rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r rhain gyda thrafodaeth fywiog, lawn gwybodaeth. Mae’n fraint gennym gael cwmni’r bobl ganlynol ar y diwrnod:

  • Paul Sng, curadur yr arddangosfa a golygydd y llyfr
  • Robert Law, ffotograffydd sydd â gwaith yn y llyfr
  • Inés Elsa Dalal, ffotograffydd sydd â gwaith yn y llyfr
  • Mymuna Soleman, ymgyrchydd a sefydlydd The Privilege Café.

Yn llywio’r drafodaeth fydd Nicola Heywood-Thomas (Newyddiadurwr Celfyddydau ac ar y BBC).

Proffil Artistiaid

Portread o Paul Sng

Paul Sng

Mae Paul Sng yn wneuthurwr ffilmiau ac ysgrifennwr o ddwy hil, Prydeinig a Tsieineaidd, sydd wedi ei seilio yng Nghaeredin, Yr Alban, ac mae ei waith wedi ei yrru gan ymchwil trefnus, adrodd straeon creadigol a dull cydweithredol sy’n ymdrechu i gael cynhwysedd ac amrywiaeth mewn pobl a phrosiectau. Yn 2015, aeth Paul ati i sefydlu Velvet Joy Productions i archwilio bywydau a gwaith unigolion sydd wedi cael eu hesgeuluso, eu hymyleiddio neu eu camgynrychioli yn y celfyddydau a’r cyfryngau. Mae rhaglenni dogfen Paul wedi cael eu darlledu ar y teledu cenedlaethol a’u dangos yn rhyngwladol ac maen nhw’n cynnwys Sleaford Mods – Invisible Britain (2015), Dispossession: The Great Social Housing Swindle (2017), Social Housing, Social Cleansing (2018) a Poly Styrene: I Am a Cliché (2021).

Portread o Zara Mader

Zara Mader

Mae Zara Mader yn ffotograffydd Cymreig o hil gymysg, ac yn ffan fawr o bync. Ymysg ei gwaith blaenorol mae prosiect oedd yn ymateb i safle Poly Styrene ym myd pync, gan gymharu hynny gyda’i safle hi fel artist ffotograffig yng Nghymru.

“Am ein bod ni’n rhannu’r un gymysgedd ethnig mae gen i ddiddordeb ym mha rôl yr oedd hil yn ei chwarae yn y dewisiadau a wnaeth Poly Styrene wrth ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn pync, a pha un ai a oedd gan ddosbarth cymdeithasol fwy o effaith ar ei dewis gyrfa. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn ei dylanwad parhaus ar fenywod heddiw. Er iddi fod yn wahanol oherwydd ei lliw, a hefyd ei dewis o ddillad pync, mae’n cynrychioli carfan o boblogaeth Prydain - o hil gymysg - sydd yn tyfu mewn nifer, felly rydw i am gwestiynu beth yw bod yn Brydeinig.”

Portread o Nicola Heywood-Thomas

Nicola Heywood-Thomas

Cymedrolwr/Llywydd

Mae gan Nicola dri degawd o brofiad darlledu mewn ystod eang o feysydd. Dechreuodd ei gyrfa gyda BBC Cymru yn syth o’r brifysgol fel ymchwilydd newyddion gan weithio wedyn ar raglen Wales Today fel is-olygydd, gohebydd a chyflwynydd.

Ymunodd ag ITV Cymru fel uwch ohebydd a chyflwynydd ac, am ddeunaw mlynedd, hi oedd prif gyflwynydd newyddion benywaidd yr orsaf. Nicola oedd y cyflwynydd ar gyfer darllediadau mawr allanol byw, gan gynnwys refferendwm y Cynulliad yn 1997 a rhaglen canlyniadau etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Bu hefyd yn cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni nodwedd a materion cyfoes ar gyfer yr orsaf, gan ennill Gwobr BAFTA Cymru am y Raglen Gerddoriaeth Orau.

Mae profiad radio Nicola hefyd yr un mor amrywiol ac mae wedi cyflwyno rhaglenni newyddion a materion cyfoes, rhaglen ddyddiol ble mae cyfle i’r cyhoedd ffonio i mewn a nifer o raglenni ar y celfyddydau ar gyfer BBC Radio Wales. Mae hi hefyd wedi cyflwyno cyfres ar Radio 4 ac yn gweithio’n rheolaidd ar BBC Radio 3, yn darlledu cyngherddau byw.

Portread o Robert Law

Robert Law

Mae Rob Law yn ffotograffydd dogfennol sy’n byw ar Ynys Môn.

Mae ei ymarfer yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth ddogfennol, gan roi cipolwg ar amgylcheddau gwledig a threfol a’r bobl sy’n rhan ohonyn. Gyda chymaint o ddelweddau tirwedd yn cael eu cynhyrchu ar draws Gogledd Cymru, mae Rob o’r farn ei bod hi’n bwysig dangos bod hwn hefyd yn le ble mae angen i bobl fyw a gweithio. Sefydlodd Prosiect Gogledd Cymru yn 2019 er mwyn annog a dangos y gorau o ffotograffiaeth ddogfennol yn y rhanbarth. Mae hefyd wedi cyfrannu sawl delwedd sydd yn y llyfr a'r arddangosfa.

Portread o Inès Elsa Dalal

Inès Elsa Dalal

Mae Inès Elsa Dalal yn artist ac addysgwr o Birmingham, sy’n byw ar hyn o bryd yn Llundain.

Mae Dalal yn arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfennol a moeseg portreadu.

Mae hi wedi ymrwymo i wynebu anghyfiawnder systematig, megis hiliaeth a senoffobia.

Fe’i ganed yn Nottingham (1990) i fam Swisaidd, Eidalaidd a thad Almaenaidd, Parsi (Iranaidd-Indiaidd), ac mae ei threftadaeth gymysg yn goleuo tynerwch ei hymagwedd tuag at bobl ddaw i eistedd i gael eu portreadu, a’r cymunedau y mae’n cyd-gynhyrchu â nhw.

Comisiynwyd yr arddangosfa solo ‘Here to Stay’ gan y GIG fymryn cyn Sgandal Windrush, ac mae wedi bod ar daith ledled y DU ers 2018, er gwaethaf y pandemig parhaus.

Mae Dalal hefyd gweithio’n genedlaethol fel tiwtor ac yn darlithio’n rhyngwladol.


Portread o Mymuna Soleman

Mymuna Soleman

Graddiodd Mymuna, sydd o dras Somali-Gymreig o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gan gwblhau ei chyrsiau, BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac MSc Iechyd y Cyhoedd Cymhwysol yn 2014 a 2016.

Mae Mymuna yn actifydd, yn fardd ac yn hyrwyddwr cymunedol dros bob mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, hil a braint pobl Wyn, a sut gall pobl ddefnyddio eu braint er da. Yn fwy diweddar, sefydlodd Mymuna The Privilege Café, rhith-wagle pwysig ac amserol a sefydlwyd ac a wreiddiwyd yn y syniad o greu gwagle diogel lle mae lleisiau sydd wedi eu gwthio cyhyd i’r cyrion ac sy’n lleisiau ‘arall’ bellach yn cael eu croesawu a’u cynnwys, eu parchu a’u clywed. Mae Mymuna wedi cynnal nifer o sesiynau rhithwir llwyddiannus ers dechrau’r Café yn 2020, gan ddenu dros 5,000 o bobl ac mae wedi ymdrin ag ystod eang o bynciau gyda’r ffocws ar ddyrchafu lleisiau o’r cyrion.

Mae hi’n frwd dros ymgysylltu â’r gymuned, gan rymuso lleisiau o’r gymuned, ond yn bwysicach fyth, sicrhau bod perthnasau gwirioneddol yn cael eu meithrin gyda llunwyr polisïau, i ddylanwadu ar newid cadarnhaol. Gobaith Mymuna yw y bydd y rôl yma yn ei galluogi i drosglwyddo’r sgiliau y mae hi wedi ei hennill o ran ymgysylltu â’r gymuned, ac adeiladu perthynas a chysylltiadau ystyrlon cadarnhaol rhwng cymunedau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.