Digwyddiad / 1 Ion – 31 Ion 2023

Her Dyddlyfr Ffotograffau Codi Calon Mis Ionawr!

Yn Ffotogallery rydym wrth ein boddau gyda dathliadau’r Nadolig! Ond gwyddom hefyd fod Ionawr, gyda’i ddyddiau oer a thywyll, yn gallu bod yn fis digon llwm ar ôl yr holl ddathlu. Felly, roeddem yn meddwl y byddai cynnal prosiect hwyliog i ganolbwyntio arno’n helpu i godi ein calonnau i gyd.

Ymunwch â ni drwy gydol mis Ionawr ar gyfer Her y Dyddlyfr Ffotograffau i Godi Calon! Byddwch yn creu dyddlyfr ffotograffau gyda phromptiau bob dydd i helpu gyda’ch lles ac i’ch ysbrydoli i edrych ar yr elfennau cadarnhaol o’ch cwmpas i gyd. Bob dydd, byddwn yn postio gair newydd fel prompt i greu ffotograff. Ar ddiwedd y mis, byddwn yn cynnal gweithdy ar-lein i ddangos sut i greu e-ddyddlyfr o’ch ffotograffau a gallwch ddewis archebu hwn wedyn fel dyddlyfr wedi ei argraffu. Rydym hefyd wedi creu grŵp Facebook lle gallwch rannu eich ffotograffau gyda phawb arall drwy gydol y sialens os dewiswch.

Os gallwch ymuno yn yr her bob dydd, gwych – ond yn fwy na dim arall dylai hwn fod yn brosiect hwyliog i’w fwyhau felly, os byddwch eisiau galw i mewn ac allan pan fydd amser gennych, mae hynny’n wych hefyd, dim pwysau! Gallwch ymuno â ni ar gyfer y gweithdy ar-lein, rhannu eich lluniau gyda phobl eraill sy’n ymuno yn y prosiect yn ein grŵp Facebook neu gadw eich ffotograffau fel casgliad hapus o atgofion mis Ionawr.

Bydd y prosiect yn dechrau ar 1 Ionawr 2023 ac yn rhedeg bob dydd hyd 31 Ionawr. Cadwch lygad ar y promptiau dyddiol ar straeon y cyfryngau cymdeithasol drwy’r grŵp Facebook. (Cofiwch os gwelwch yn dda bod hwn yn grŵp cyhoeddus. Byddwch yn garedig a chofiwch y dylai’r lluniau sy’n cael eu rhannu fod yn briodol i bawb.)

Neu gallwch lanlwytho eich ffotograffau i’r ffolder hon a rennir.

Ymunwch yn yr her!

Rheolau

Trwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rydych yn cytuno i’r amodau a ganlyn:

Mae’r cyfranogwyr yn cadw perchnogaeth a hawlfraint y ffotograffau a gyflwynant. Gallai’r ceisiadau gael eu cyhoeddi ar-lein yn ôl dewis Ffotogallery. Yr unig ffordd y bydd Ffotogallery yn defnyddio’r delweddau fydd ar gyfer hyrwyddo, cyhoeddusrwydd, newyddion, neu i greu ymwybyddiaeth neu addysgu gwybodaeth.

Mae’r cyfranogwyr yn cytuno mai nhw sydd wedi creu’r ffotograffau a/neu eu bod wedi eu hawdurdodi i ddefnyddio’r ffotograffau fel y cawsent eu cyflwyno. Dylid cyfeirio at, neu roi credyd i gyd-awduron a ffynonellau gwreiddiol sy’n berthnasol ac ni fydd ein defnydd o’r ffotograffau ar gyfer eu cyhoeddi ar-lein yn torri hawlfraint trydydd parti nac unrhyw hawliau eraill chwaith.