Arddangosfa / 18 Maw – 15 Ebr 2017

Kanu's Gandhi

Kanu's Gandhi
Photograph by Kanu Gandhi © The Estate of Kanu Gandhi

I lansio cywaith newydd cyffrous rhwng India a Chymru, sy’n dathlu 70 mlwyddiant Annibyniaeth India a chreu’r India Fodern, pleser o’r mwyaf i Ffotogallery yw cyflwyno’r dangosiad cyntaf yn y DU o Kanu’s Gandhi, arddangosfa newydd o luniau prin a phersonol o Mahatma Gandhi gan ei or-nai a’i groniclydd personol, Kanu Gandhi.

Daeth Kanu Gandhi i fyw gyda Mahatma Gahdhi yn Ashram Sevagram a mynd yn ddilynydd oes iddo. Caniataodd Gandhi i Kanu dynnu ffotograffau ohono ar yr amod na fyddai’n defyddio fflach ac na ofynnid iddi byth i ystumio ar gyfer y camera. Er i rai o ddelweddau Kanu Gandhi gael eu hatgynhyrchu mewn llyfrau ar Mahatma Gahdhi, ni chafodd ei waith nemor ddim cydnabyddiaeth, ac mae yn awr yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y DU fel un corff o waith a gydnabyddir am ei bwysigrwydd hanesyddol ac artistig. O archif a fu’n anghof ers hydoedd, yn ffrwyth ymchwil fanwl, wedi ei adfer yn gelfydd a’i guradu’n gain gan Prashant Panjiar a Sanjeev Saith, mae Kanu’s Gandhi yn datgelu ffotograffau prin a phersonol o’r Mahatma yn ystod deng mlynedd olaf ei oes.

Fel yr esbonia David Drake, Cyfarwyddydd Ffotogallery:

Mae dylanwad Mahatma Gandhi ar bobl gyffredin ac arweinwyr y byd fel ei gilydd yn anferth, ac mae ei ymrwymiad i newid y byd trwy ddulliau di-drais yn atgof amserol i ni bod gobaith bob amser am fywyd gwell, hyd yn oed yn y dyddiau duaf. Braint i Ffotogallery yw cael cyflwyno’r arddangosfa ryfeddol hon ar 70 mlwyddiant Annibyniaeth India, a chydnabod perthynas arbennig Cymru ac India. Roeddem wrth ein bodd i glywed y bydd Cyngor Hindŵaidd Cymru’n dadorchuddio cerflun newydd o Mahata Gandhi yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.”

 Mae’r arddangosfa’n rhan o Dreamtigers, project blwyddyn o hyd sy’n dod â Ffotogallery, asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol Cymru, a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi ynghyd. Mae’r project yn defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r ‘India go iawn’ a’r llall sy’n llawn mor bresennol a phwysig – India Ddychmygol a esblygodd yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a thrawsnewid ei hun yn y parth cyhoeddus ac ym meddyliau Indiaid. Mae Dreamtigers yn un o unarddeg project yng Nghymru a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru o dan Flwyddyn Diwylliant y DU-India 2017.