Arddangosfa / 7 Hyd – 20 Hyd 2022

Looking for Signs

Peter Finnemore

Lansio Llyfr: Dydd Iau 6 Hydref, 6pm

Ffair Lyfrau: Dydd Sadwrn 15 Hydref, 12-5p

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyflwyno gwaith Peter Finnemore ‘Looking for Signs’ mewn arddangosfa wib yn ein horiel yn Cathays, i ddathlu cyhoeddi ei lyfr ffotograffau newydd sy’n dwyn yr un teitl.

Ymunwch â ni o 6pm ar Ddydd Iau 6 Hydref i fwynhau’r digwyddiad swyddogol i lansio’r llyfr ac agor yr arddangosfa.

Mae’r corff hwn o waith yn brosiect ffotograffig a chelf destun unigryw, a wnaed ac a ysbrydolwyd gan ddau drip i India yn 2017 a 2018. Cafodd y cyntaf o’r rhain ei gomisiynu gan Ffotogallery yn rhan o’r Prosiect India a Chymru Dreamtigers, i nodi 70 mlynedd o annibyniaeth.

"Profiad o India drwy ffrâm ddangosiadol camera llaw yw Looking For Signs. Defnyddir y ciplun hwn i ddogfennu’n greadigol ac yn rhugl brofiadau a mannau cymdeithasol yr hunan, wedi eu gosod yn awyrgylch ac arena ddynamig India. Mae tiriogaeth artistig y gelfyddyd hon i’w chael mewn cyfarfyddiadau cymdeithasol haniaethol, darniog a dirfodol. Cyd-gyfarfod diflanedig ymddangosiadau a gwahaniad, lle mae’r hunan a rhywun arall yn cwrdd a chyfuno drwy fan cyfarfod y camera. Mae estheteg ciplun, gyda’i rwyddineb, ei ddiffyg hierarchaeth a’i ynni darluniadol wedi’i ddefnyddio yma drwy gyfrwng iaith eang celfyddyd gain, lle mae’r ystyr yn agored, wedi ei ehangu ac yn ansicr. Crëir y ffotograffau goddrychol hyn o deithio yn y meddwl, lle mae’r camera’n cyfryngu rhwng ymddangosiad, profiad a syniad. Yr hyn sy’n fy nghymell i yw profiad pererin nid twrist.

Agor amser a naratif sy’n digwydd yn y llyfr hwn, llif sinematig o ymddangosiadau. Mae’r synnwyr o symud a thaith wedi ei wreiddio hefyd yn y lluniau eu hunain lle mae cyfarfyddiadau cymdeithasol ag ymddangosiadau’n agor ‘fel sioe sy’n pasio’. Yn y fan yma, mae creu darluniau llawn mynegiant yn cyd-daro ac yn clymu â phenodolrwydd ac ecosystem cymunedau, diwylliant a drama lle.

Mae India yn ddiwylliant cymhleth, dynamig a goleuedig sydd â gwreiddiau dwfn, ac sy’n cynnwys deuoliaethau a chyferbyniadau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r profiad hwn o is-gyfandir India, mae hunanymwybyddiaeth o ddynameg y person ar y tu allan fel rhywun sy’n creu’r darluniau. Yr hyn sy’n cael ei ddathlu i’r un graddau yn y fan yma yw cyfarfyddiadau ag amrywiaeth fawr o ddelweddau, arteffactau ac arwyddion wrth iddynt gael eu cyflwyno, eu harddangos a’u profi mewn mannau cyhoeddus. Ar y cyd yma, maen nhw’n dangos cynrychiolaeth a’i gymhlethdod.”

- Peter Finnemore

    Bydd Looking for Signs ar gael i’w brynu o siop lyfrau oriel a siop ar-lein Ffotogallery o 7 Hydref.

    Proffil Artist

    Peter Finnemore