Opportunity

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Nifer o Leisiau, Un Genedl
New Age Travellers, Fenyw © Megan Winstone, 2017

Galwad Agored ar gyfer cynigion gan Artistiaid/Ffotograffwyr

Cyflwyniad

Mae'r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid a ffotograffwyr sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd isod i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith newydd i'w gynnwys yn rhan o arddangosfa deithiol Nifer o Leisiau, Un Genedl, wedi'i churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Wales, ac Alice Randone, curadur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe'i comisiynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol 2019 i nodi'r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.

Nod y rhaglen yw:

  • Ennyn diddordeb, difyrru a hysbysu amrywiaeth o gynulleidfaoedd;
  • Adlewyrchu bywyd, diwylliant a rhagoriaeth Cymru gyfoes;
  • Helpu pobl i ddeall sefyllfa Cymru yn y byd;
  • Dangos y Senedd fel cartref bywyd cyhoeddus Cymru;
  • Helpu pobl i ddeall effaith gwleidyddiaeth ar eu bywydau, a deall a gwerthfawrogi democratiaeth.

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Dylai'r arddangosfa ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lens i archwilio'r gobeithion a'r dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.

Dylai anelu at gyfleu cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas Cymru, a lle bynnag y bo modd, annog cyfranogiad y cyhoedd.

Bydd yr arddangosfa ar daith mewn amryw o leoliadau ledled Cymru yn ystod 2019/20, ac yn cael ei lansio yn y Senedd, y ganolfan ar gyfer democratiaeth a datganoli yng Nghymru, ym mis Medi 2019.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, sy'n cynrychioli ardaloedd penodol o Gymru fel aelod o blaid wleidyddol benodol neu aelod annibynnol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod bob wythnos yn y Senedd pan fydd y Cynulliad yn eistedd i drafod materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Maent yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Cymru, yn cynnal dadleuon ac yn archwilio deddfwriaeth Cymru.

Ffotogallery yw'r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru, ac yn 2018, dathlodd 40 mlynedd ers ei sefydlu.

Y strategaeth guradurol gyffredinol yw sicrhau bod cynnwys yr arddangosfa:

  • O ansawdd uchel, yn gyfoes ac yn berthnasol i themâu'r arddangosfa;
  • Yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth Cymru a'i chymunedau trwy gynrychioli pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd sy'n dod o wahanol rannau o Gymru;
  • Yn ennyn diddordeb, difyrru a hysbysu amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan adlewyrchu bywyd, diwylliant a rhagoriaeth Cymru gyfoes;
  • Yn peri i rywun feddwl ac yn annog sgwrs o ran gobeithion a dyheadau Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf;
  • Ddim yn peryglu niwtraliaeth a didueddrwydd gwleidyddol y Cynulliad.

Ffocws yr Alwad Agored

Cymhwysedd

Comisiynir hyd at chwech o ffotograffwyr/artistiaid cyfryngau lens.

Wrth ymateb i themâu'r arddangosfa, bydd yr artistiaid/ffotograffwyr a gomisiynir yn creu gwaith newydd yn ymwneud â themâu gobeithion a dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.

Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid o Gymru, a/neu sy'n byw yng Nghymru ac yn gweithio ym maes ffotograffiaeth, y cyfryngau fideo a lens, delweddu digidol, gosodwaith a'r cyfryngau cymysg. Gall y cynnig fod ar gyfer gwaith cwbwl newydd, neu ddatblygiad ar waith sy'n dal i fynd rhagddo. Rydym hefyd yn croesawu cynigion gan artistiaid sy'n gweithio gyda ffotograffiaeth archifol a ffotograffiaeth a 'ganfuwyd' wrth gynhyrchu gwaith newydd.

Dyfernir y comisiynau erbyn diwedd mis Mawrth a bydd angen cynhyrchu'r gwaith newydd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Gorffennaf 2019. Bydd y curaduron yn darparu cymorth a chyngor trwy gydol y cyfnod cynhyrchu ac yn ystod y broses o ddethol, golygu a chreu'r arddangosfa.

Beth yw gwerth pob comisiwn?

Bydd pob artist/ffotograffydd a gomisiynir yn cael ffi artist o £3,000 (i gynnwys yr holl gostau cynhyrchu, trethi a ffioedd artist), yn daladwy mewn dwy ran.

Bydd Ffotogallery yn talu am gostau argraffu, cynhyrchu a gosod ychwanegol yr arddangosfa.

Sut i wneud cais am gomisiwn

Gwahoddir artistiaid a ffotograffwyr i gyflwyno cynigion yn electronig i Liz Hewson, Cydgysylltydd Cynhyrchu, Ffotogallery, erbyn 12.00 ddydd Llun 18 Mawrth.

Dylid anfon cynigion at [email protected]

Dylai cynigion fod ar ffurf:

1) Datganiad o natur y gwaith a fydd yn cael ei greu a'i berthnasedd i themâu'r arddangosfa, yr amserlen a phrosesau, eich profiad ac esboniad pam eich bod yn gymwys (uchafswm o 500 o eiriau)

2) Enghreifftiau o waith blaenorol (dolenni gwe, jpegs, pdf)

3) Briff/CV yr artist neu'r ffotograffydd (chwe tudalen ar y mwyaf, gan gynnwys manylion cyswllt llawn a dau gyswllt proffesiynol sy'n gallu rhoi geirdaon)

Llun: New Age Travellers, Fenyw © Megan Winstone, 2017
Instagram: @meganwinstonephoto Twitter: @Megan_Winstone