Arddangosfa / 6 Tach – 6 Rhag 2019

Many Voices, One Nation - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Many Voices, One Nation - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
© Zillah Bowes

Yn dilyn ei début llwyddiannus yn y Senedd ym mis Medi, bydd dangosiad nesaf Many Voices, One Nation yn Oriel 2 yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, a bydd modd ei weld o 6 Hydref 2019 hyd 6 Ionawr 2020. Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ac mae’n cynnwys theatr, neuadd gyngerdd, stiwdio a sinema, yn ogystal â phedwar safle oriel, caffis, bariau a siopau.

Mae Many Voices, One Nation yn arddangosfa deithiol dan ofal Ffotogallery a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei gomisiynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhan o’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n parhau drwy 2019 gyfan i ddathlu’r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoliad yng Nghymru.

Mae’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens i archwilio gobeithion a dyheadau am ddyfodol Cymru. Comisiynwyd chwe artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru mewn meysydd fel ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau’r lens, delweddu digidol, gosodiad a chyfryngau cymysg. Nod yr arddangosfa yw dangos cyfoeth ac amrywiaeth y ddaearyddiaeth, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru a, lle bynnag y bo modd, annog cyfranogaeth y cyhoedd.

Yr artistiaid a gomisiynwyd yw Luce + Harry, Zillah Bowes, Edward Brydon, Huw Alden Davies, James Hudson a Jon Pountney.