Digwyddiad / 11 Mai – 14 Mai 2022

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Suzie Larke, Iko-Ono Mercy Haruna, Nelly Ating

Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i’r DU gyfan ganolbwyntio ar gael iechyd meddwl da.

Yn 2022, mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn digwydd ar 9-15 Mai ar y pwnc ‘Unigrwydd’.

Mae unigrwydd yn effeithio ar nifer gynyddol ohonom ni yn y DU ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pandemig. Mae ein cysylltiad â phobl eraill a’n cymuned yn hanfodol er mwyn diogelu ein hiechyd meddwl ac mae angen i ni ganfod gwell ffyrdd o ymdrin â’r epidemig o unigrwydd. Gallwn oll chwarae rhan yn yr ymdrech hon ac, yn Ffotogallery, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am bedwar diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau sydd â ffocws ar les meddyliol ac unigrwydd.

Ar nos Fercher yr 11eg, nos Iau y 12fed a Nos Wener y 13eg, byddwn yn cynnal sgyrsiau gan artistiaid. Bydd ein ffotograffwyr yn rhannu ac yn trafod gwaith sydd â ffocws ar iechyd meddwl a lles. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y ffordd maen nhw’n defnyddio eu delweddau i gyfleu anawsterau iechyd meddwl, y problemau a’r ffactorau dylanwadol sy’n gallu effeithio ar ein hiechyd a’n lles a rhannu eu straeon eu hunain.

Byddai’n syniad da i gofrestru ar gyfer ein sgyrsiau ag artistiaid. Dyma restr o ddigwyddiadau’r wythnos:

Dydd Mercher 11 Mai, 6-8pm – Sgwrsio â Suzie Larke, a dangos y ffilm fer Unseen (Wyneb yn wyneb yn Ffotogallery)

Dydd Iau 12 Mai, 6-8pmSgwrsio â Jo Haycock a’i Theulu (Wyneb yn wyneb yn Ffotogallery) Bydd gennym westeion agored i niwed gyda ni felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr wisgo masg lle bo modd yn ystod y digwyddiad hwn.

Dydd Gwener 13 Mai, 6-8pm – Sgwrsio ag Iko-Ojo Mercy Haruna a Nelly Ating, dan arweiniad Cynthia Sitei (Digwyddiad ar-lein)

Ar Ddydd Sadwrn y 14eg byddwn yn cynnal diwrnod cyfan o weithgareddau sydd â ffocws ar wella ein lles ac ymdrin ag unigrwydd. Bydd gennym gelf a chrefft a gweithgareddau hwyliog a fydd yn eich ymlacio drwy gydol y prynhawn. Rhagor o fanylion i ddilyn.

Proffil Artistiaid

Portread o Suzie Larke

Suzie Larke

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Ers iddi ennill gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002, mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a phortreadau.

Yn ei ffotograffiaeth celfyddyd gain mae hi’n archwilio themâu megis hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae ddiddordeb Suzie mewn cynrychioli cyflwr mewnol yn hytrach na dal moment mewn amser. Mae hi’n creu delweddau sy’n herio ein syniad o realiti – gan gyfuno ffotograffau i greu delwedd sy’n herio rhesymeg.

Portread o Iko-Ono Mercy Haruna

Iko-Ono Mercy Haruna

Mae Iko-Ọjọ Mercy Haruna, a elwir yn Mercy, yn artist gweledol a ffotograffydd dogfennau sydd wedi ymrwymo i dynnu lluniau o enydau diaros bywyd teulu a straeon sy’n treiddio’n ddyfnach i realiti a chymhlethdodau bod yn fam. Nod ei phrosiect diweddaraf, Offspring, yw creu lle i famau Du yn y DU rannu eu hanesion am y newidiadau corfforol a seicolegol sy’n dod gyda’r trawsnewidiad i fod yn fam.

Ochr yn ochr â’i harferion ffotograffig, mae hi’n ysgrifennu am fod yn rhiant ac yn cynhyrchu podlediadau ac mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau, yn cynnwys cyd-gyflwyno Parentland i BBC World Service, sef podlediad wedi ei seilio ar dystiolaeth sy’n ymchwilio cwestiynau am fod yn rhiant drwy lens ymchwil gwyddonol ac arferion diwylliannol byd-eang.

Cafodd Mercy ei geni a’i magu yn Nigeria, treuliodd ei harddegau yn Ffrainc a symudodd i’r DU i wneud BA mewn Cyfathrebu Gweledol ac MA mewn Ffotograffiaeth. Mae hi’n byw yng Nghaint ar hyn o bryd gyda’i theulu.

Portread o Nelly Ating

Nelly Ating

Mae Nelly Ating yn ffotonewyddiadurwr sy’n canolbwyntio ar gwestiynau yn ymwneud â hunaniaeth, addysg, eithafiaeth a mudo. Fel ffotonewyddiadurwr, cafodd ei gwaith ei gyhoeddi mewn papurau newydd dyddiol lleol yn Nigeria a’r cyfryngau mawr fel y BBC a CNN. Mae ei gwaith ffotograffig sy’n dogfennu cynnydd terfysgaeth Boko Haram rhwng 2014 a 2020 yng Ngogledd ddwyrain Nigeria wedi taflu golau ar effaith eithafiaeth dreisgar. Mae Ating wedi arddangos mewn orielau a gwyliau ffotograffig yn Affrica, Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn ogystal â beirniadu ac adolygu cystadlaethau ffotograffiaeth fel African Women in Media (AWiM) a Gwobrau Ffoto Gwasg Uganda. Mae hi’n aelod o Women Photograph, Black Women Photographers, African Women in Photography, the Journal Collective, ac African Database for Photojournalists a redir gan World Press Photo. Ar hyn o bryd mae hi’n ymgeisio am PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio sgyrsiau am hawliau dynol drwy ffotograffiaeth.