Arddangosfa / 25 Ion – 23 Chwef 2019

Noises

Lua Ribeira

Noises
© Lua Ribeira

Mae Noises yn archwilio diwylliant dancehall Jamaicaidd y Deyrnas Unedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfraniad menywod i’r diwylliant hwnnw a syniadau am fenyweidd-dra o fewn i hynny. Dancehall yw’r ffurf amlycaf o ddiwylliant poblogaidd Jamaica a gariwyd ledled y byd gan gymunedau Affricanaidd-Caribїaidd alltud. Yn y Deyrnas Unedig, mae dathliadau dancehall yn digwydd y tu hwnt i’r brif ffrwd - yn ymgorfforiadau cadarn o hunaniaeth Jamaicaidd. Er bod dancehall yn derm cymharol newydd, mae gwreiddiau’r arferion a’r dulliau perfformio yma’n perthyn i draddodiadau perfformio tipyn henach fel dawnsio mento, a ddatblygodd gyda phlethiad syncretig ffurfiau diwylliannol Affricanaidd ac Ewropeaidd.

Yn ei hanfod, man cyfarfod ar gyfer cyd-ddathlu yw dancehall - lle mae’r sgwrs a’r ddadl gymdeithasol yn digwydd. Mae’r defnydd o Patois Jamaicaidd yn y caneuon a pherfformiadau o rywioldeb lliwgar wrth ddawnsio yn rhan o guriad calon y digwyddiad. Ond, mae nodweddion ymhlyg dancehall yn bwnc llosg cyson yn y Gorllewin. Yn aml, mae’r feirniadaeth hallt o’r elfennau dramatig, ffyrnig a rhywiol yn anwybyddu cymlethdodau a threftadaeth y tradddodiad yn llwyr.

Nod y prosiect yw herio’r portread ystrydebol arferol o ddiwylliant a glustnodir fel ‘is-ddiwylliant’. Mae’r casgliad yma o ffotograffau’n ffrwyth proses gydweithiol rhwng yr artist a grŵp o fenywod Prydeinig-Jamaicaidd - yn archwilio a darlunio pynciau cyffredinol fel genedigaeth, cariad, rhyw a marwolaeth.

Proffil Artist

Portread o Lua Ribeira

Lua Ribeira

Ganed Lua Ribeira yn Galicia, yng ngogledd Sbaen yn 1986. Enillodd radd BA (Anrhydedd) ym maes Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Vigo yn 2009. Fe ddarganfu hi ffotograffiaeth ar ôl symud i Barcelona i astudio Dylunio Graffig yn 2010. Erbyn 2012 roedd ffotograffiaeth wedi tyfu’n alwedigaeth, ac fe symudodd i’r DU a chofrestru ar gwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru – lle graddiodd gydag anrhydedd yn 2016.

Mae cydweithio’n un o nodweddion amlwg ymarfer artistig Lua Ribeira, ac mae gwaith ymchwil trylwyr ac ymroddiad ymdrwythol i destun ei gwaith yn greiddiol i hynny. Mae hi’n anelu i estyn y tu hwnt i rwystrau cymdeithasol a thorri’r strwythurau sy’n arwahanu cymunedau penodol. Wrth archwilio canfyddiadau am fyw a bod sy’n herio syniadau caeth am arferion cymdeithasol ‘derbyniol’, mae Ribeira hefyd yn cwestiynnu gwerthoedd a moesau ei magwraeth ei hunan.

Derbyniodd Lua Ribeira Grant Ffotograffig Firecracker yn 2015, Gwobr Ffotograffwyr Graddedig Magnum yn 2017 a Gwobr Jerwood Photoworks yn 2018. Cafodd cyfrol ‘Noises’ ei chyhoeddi gan Fishbar yn 2017 ac fe ymddangosodd y gweithiau hefyd yn y gyfrol ‘Firecrackers, Female Photographers Now’, a gyhoeddwyd gan Thames & Hudson. Yn 2018, cafodd Ribeira ei dewis yn un o Enwebeion Magnum.