Prosiect

Nunlle ond Fan Yma

Ym mis Chwefror 2011, cynhaliodd Ffotogallery ddathliad diwrnod o hyd o sain, cerdd a chân mewn ymateb i arddangosfa A Landscape Of Wales James Morris.

Yn y dydd, roedd Tŷ Turner yn ganolbwynt i weithdai sain ymarferol ar gyfer teuluoedd, a arweinid gan artistiaid, gyda noson o berfformiadau cerddorol i ddilyn.

SŵN Helpodd yr artistiaid Murray Ward a Casey Raymond y plant iau i archwilio byd sain trydanol, gyda meicroffonau, gitars a hynodion electronig wrth law i greu sŵn mawr o gyrff bychain.

SAIN Helpodd y cyfansoddwr a’r cerddor Matthew Lovett a myfyrwyr o adran Sain a Cherdd Greadigol PCC blant i recordio a golygu seiniau cael.

CÂN Bu’r cyfansoddwyr caneuon Sweet Baboo a H. Hawkline yn tywys criw o blant a rhieni yn swnllyd trwy’r broses o sgrifennu eu caneuon eu hunain, gan eu hannog i greu geiriau newydd a chanu nerth esgyrn eu pen!

Y perfformwyr gyda’r nos oedd Sweet Baboo, H. Hawkline, Failed Nasa Experiment, Trwbador a Jemma Roper.