Digwyddiad / 18 Awst 2022

Paratoi’r Ffordd: Sut mae Hanes LHDTQ+ wedi Dylanwadu ar Gymuned Heddiw

Lisa Power, Norena Shopland, Yan White, Paris Tankard

Mae Ffotogallery yn falch iawn eich gwahodd i drafodaeth panel arbennig iawn yn rhan o’n Rhaglen ‘Dathlu Pride yn Ffotogallery’ drwy gydol mis Awst.

Bydd Paratoi’r Ffordd: Sut mae Hanes LHDTQ+ wedi Dylanwadu ar Gymuned Heddiw yn rhoi’r cyfle i ni ystyried sut mae’r bobl hynny a frwydrodd am y cydraddoldeb sydd gennym heddiw wedi helpu i siapio’r tirlun LHDTQ+ modern – o ddileu Adran 28, i gydraddoldeb priodasau, ac i’r iaith a ddefnyddiwn.

Mae’n anrhydedd fawr iawn gennym gael cwmni’r hanesydd Norena Shopland i arwain, a’r panelwyr Lisa Power, sylfaenydd Stonewall; Yan White o The Queer Emporium Caerdydd; a Paris Tankard, Ffotograffydd Queer People Of Colour ac Enillydd Gwobr y Gymdeithas Ffotograffwyr 2022.

Mae hon yn addo bod yn noson ddiddorol, lawn gwybodaeth, o sgyrsiau i’ch ysbrydoli ac estynnwn groeso i chi ei rhannu â ni.

Ymunwch â ni yn ein horiel ar Ddydd Iau 18 Awst o 6-8pm.

Mae’r lleoedd am ddim a byddem yn eich cynghori i gofrestru drwy’r ddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Proffil Artistiaid

Portread o Lisa Power

Lisa Power

Deic o Gaerdydd yw Lisa Power sydd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd lawer. Daeth allan yn yr 1970au, a threuliodd 14 mlynedd gyda (Gay) Switchboard ac 17 gydag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Rhwng y cyfnodau hynny roedd yn un o sylfaenwyr Stonewall a Pink Paper, roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol ILGA, y person cwiar cyntaf i godi llais dros ein hawliau yn y Cenhedloedd Unedig yn 1991 a hi ysgrifennoddd hanes llafar swyddogol Ffrynt Rhyddid Hoywon Llundain. Ar hyn o bryd mae hi’n un o Ymddiriedolwyr Queer Britain, yr amgueddfa newydd ac un o grëwyr Fast Track Cymru, y gynghrair HIV sydd â’r nod o ddod ag unrhyw achosion newydd o HIV i ben yng Nghymru erbyn 2030. Mae hi’n siarad llawer am hanes cwiar ac yn annog pobl i greu mwy ohono iddynt eu hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Portread o Norena Shopland

Norena Shopland

Mae Norena Shopland yn awdur/hanesydd sy’n arbenigo yn hanes cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Ei llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales (Seren Books, 2017) yw’r gwaith cwbl hanesyddol cyntaf am hanes LHDTQ+ yng Nghymru. Mae Queering Glamorgan ac A Practical Guide to Searching LGBTQIA Historical Records (Routledge, 2020) wedi dod yn boblogaidd iawn fel pecynnau cymorth i helpu pobl i wneud ymchwil. Mae Shopland hefyd yn ymchwilio ac yn ysgrifennu am hanes Cymru, yn cynnwys ei llyfr The Curious Case of the Eisteddfod Baton ac arddangosfa a llyfr sydd ar y gweill ar Tip Girls Cymru, sef y merched oedd yn gweithio yn y diwydiant glo. Yn 2021 cafodd Shopland ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i roi hyfforddiant LHDTQ+ i lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau lleol yng Nghymru. Ei llyfr diweddaraf yw A History of Women in Men’s Clothes: from cross-dressing to empowerment (Pen and Sword Books, 2021).

Portread o Yan White

Yan White

Yan White yw Cyfarwyddwr The Queer Emporium, sef Menter Gymdeithasol ar Heol Eglwys Fair sy’n gwerthu ar ran oddeutu 20 o werthwyr LHDTQ+. The Queer Emporium yw’r cyntaf o’i fath ac mae hefyd yn llwyfannu ddigwyddiadau ar gyfer gwahanol rannau o’r Gymuned LHDTQ+, yn cynnwys nosweithiau i helpu pobl draws, pobl ryngrywiol a phobl nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd, yn ogystal â QIPOC. Eleni, aeth y Fenter Gymdeithasol ati i ddechrau Gŵyl y Cyrion Cwiar gyda’r nod o roi llwyfan a thâl i gynifer o artistiaid cwiar ag y bo modd.

Portread o Paris Tankard

Paris Tankard

Mae Paris Tankard yn ffotograffydd sydd wedi ennill gwobrau ac a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol ac ar hybu newidiadau cadarnhaol o fewn ein cymunedau, yn cynnwys gweithio fel ffotograffydd protest a gyda sefydliadau nid-er-elw, ac mae eu prosiect mwyaf diweddar yn archwilio bywydau pobl cwiar o liw.