Digwyddiad / 30 Gorff 2020

Ffotograffiaeth ac Iaith

Michal Iwanowski, Marcelo Brodsky, Alina Kisina

Ffotograffiaeth ac Iaith
© Marcelo Brodsky
Ffotograffiaeth ac Iaith
© Michal Iwanowski

Ymunwch â ni ar gyfer y drafodaeth ar-lein hon sy’n dathlu lansiad y Cyfathrebu Gweledol newydd rhwng Marcelo Brodsky a Michal Iwanowski. Mae’r ddau artist yn trafod eu harferion perthnasol a sut yr aethon nhw ati i ymdrin â’r cydweithrediad yn ystod y cyfnod clo. Bydd Alina Kisina, artist, addysgwr ac ieithydd drwy hyfforddiant, yn archwilio llythrennedd gweledol a mynegiant creadigol, a sut mae dimensiwn ar-lein ei phrosiect byd-eang Children of Vision yn grymuso pobl ifanc i rannu eu gweledigaeth unigryw o’r byd.

Bydd y drafodaeth hon yn digwydd ar-lein drwy Zoom – byddwn yn rhoi manylion y cyfarfod a gwybodaeth dechnegol bellach pan fyddwch yn archebu lle.

Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o sgyrsiau gydag artistiaid a chynulleidfaoedd am rôl ffotograffiaeth mewn mynegi diwylliant a hunaniaeth. Mae’r digwyddiad yn cysylltu â Galwad Agored Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth yn rhan o’n cydweithio rhwng India a Chymru.

Dim ond ychydig dros fis sydd ar ôl i gyflwyno eich cynnig ar gyfer ein cyfle diweddaraf mewn partneriaeth â’r Chennai Photo Biennale Foundation, ‘Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth’ - mae pedwar grant ar gael, dau i artistiaid yng Nghymru, a dau i artistiaid yn India. Gallwch ganfod rhagor a gwneud cais yma.

Proffil Artistiaid

Portread o Michal Iwanowski

Michal Iwanowski

Mae Michal Iwanowski yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ac artist gweledol wedi ei seilio yng Nghaerdydd. Graddiodd gydag MFA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 2008, ac mae wedi bod yn datblygu a dangos ei waith ers 2004. Enillodd ddyfarniad Ffotograffydd Newydd Addawol gan y Magenta Foundation, a dyfarnwyd Gair o Ganmoliaeth iddo yn y Px3 Prix De Photographie, Paris. Mae wedi derbyn grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru am ei brosiectau Clear of People a Go Home, Polish, a chafodd y ddau eu henwebu ar gyfer Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse - yn 2017 am ei lyfr ‘Clear of People,’ ac yn 2019 am yr arddangosfa Go Home Polish yn Peckham24. Cafodd ei waith ei arddangos a’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd, ac mae nifer o sefydliadau wedi sicrhau darnau o’i waith ar gyfer eu casgliadau parhaol, yn cynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol.

Portread o Marcelo Brodsky

Marcelo Brodsky

Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.

 Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi Once@9:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.

Portread o Alina Kisina

Alina Kisina

Mae Alina Kisina yn artist o ffotograffydd Wcranaidd-Prydeinig sy’n byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Wrth galon ei gwaith mae ymgais i ffeindio cytgord mewn anrhefn drwy’r rhinweddau dynol elfennol ac oesol hynny sy’n ein cario y tu hwnt i leoliad, rhyw a chefndir cymdeithasol.
Mae gwaith Alina wedi cael ei arddangos ledled y byd. Dangoswyd ‘Children of Vision’ fel arddangosfa unigol yng Nghyfadeilad yr Amgueddfa Gelfyddyd a Diwylliant Cenedlaethol yn Kiev yn Wcráin yn 2017 a 2018. Ymysg arddangosfeydd unigol eraill ganddi mae: ‘City of Home’ a ddangoswyd yn Street Level Photoworks yn Glasgow a’r Light House Media Centre yn Wolverhampton a hefyd yng ngŵyl FORMAT International Photography Festival yn Derby, yn ogystal â mewn gwyliau yn Singapore a Syria. Mae addysg ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolog i ymarfer artistig Alina. Bu’n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Wolverhampton ac yng Ngholeg Celf a Dylunio Duncan of Jordanstone. Ar hyn o bryd mae Alina’n dal i gyflwyno sgyrsiau cyhoeddus, cynnal adolygiadau portffolio a gweithdai cyfranogol gydag ysgolion a grwpiau eraill.