Arddangosfa / 16 Medi – 24 Medi 2022

Restore / Prosiect Change Makers

O 16 Medi, mae’n bleser mawr gennym allu arddangos canlyniadau artistig o ddau brosiect allgymorth cymunedol mewn partneriaeth ag Oasis Cardiff ac Engage Cymru yn yr arddangosfa dros dro hon yn ein horiel yn Cathays.

Restore – Prosiect Ffotograffiaeth gydag Oasis

Yn 2022, aeth Ffotogallery i bartneriaeth ag Oasis Cardiff i greu Restore, sef prosiect ffotograffiaeth sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Rhoddodd y prosiect gyfle i bobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau – o ddechreuwyr i bobl sy’n gobeithio sefydlu gyrfaoedd yn y maes ffotograffiaeth – i ymgysylltu â ffotograffiaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bu’r cyfranogwyr yn archwilio amrediad o arferion, technegau ac offer ffotograffig, o wneud montage ffotograffig, a thaith gerdded ffotograffig drwy Gefn Onn, i ddefnyddio camerâu tafladwy a thynnu lluniau portread ar gamerâu proffesiynol mewn stiwdio symudol. Cawsent eu cefnogi gan yr artist proffesiynol Tudor Etchells drwy gydol y broses.

Yn dilyn ei arddangosiad cyntaf yn Oasis Cardiff yn gynharach yn y flwyddyn, mae Ffotogallery’n falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n arddangos canlyniadau creadigol anhygoel y bobl a gymerodd ran.

Change Makers

Mae’r prosiect Change Makers yn ddull cydweithredol o arallgyfeirio’r gweithlu drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc fynd i mewn i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a datblygu.

Aeth Engage Cymru i bartneriaeth ag Eyst, Cardiff Fusion, Unify Artists Collective, Canolfan Mileniwm Cymru, Ziba Creative a Ffotogallery i gefnogi grŵp o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol yng Nghaerdydd i weithio tuag at eu Arts Award Efydd, sef cymhwyster Lefel 1 ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) sy’n agored i bobl ifanc 11 i 25 oed.

Cymerodd y grŵp o unigolion ifanc ran mewn amrywiaeth eang o brofiadau yn cynnwys gweithdai ymarferol gan artistiaid blaenllaw lleol; ymweliadau ag orielau a safleoedd celf dinesig; roedden nhw’n aelodau o’r gynulleidfa mewn sioe gerdd flaenllaw; cawsent ddysgu sut i gyflwyno sioe radio; a chawsent archwilio eu hoff fath o gelf dros raglen chwe mis. Cawsent fwynhau eu diddordebau eu hunain mewn amrywiaeth o gyfryngau a rhannu eu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid.

Pasiodd bob un eu Arts Award Efydd gyda graddau rhagorol ac mae Ffotogallery yn falch o allu rhannu eu canlyniadau creadigol gyda chynulleidfa ehangach drwy gyfrwng yr arddangosfa hon o’u gwaith terfynol.

Dyddiadau i’ch dyddiaduron:

Dydd Iau 15 Medi, 6 - 8pm – Dathliad Agoriadol Arddangosfa Oasis