Digwyddiad
/ 25 Tach 2021
Small Business Christmas Get-Together
Ydych chi’n berchen ar fusnes bach o fewn neu gerllaw Cathays yng Nghaerdydd? Os ydych, mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer Noson Nadoligaidd yn ein horiel hyfryd yn Ffotogallery, Fanny Street.
Bydd gennym win twym a mins peis i chi os dewch chi draw a’n helpu i ehangu ein rhwydwaith o gymorth i fusnesau bach lleol. Mae’r noson i gyd yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb, felly galwch draw i fwynhau noson Nadoligaidd gyda’n tîm.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi oll bryd hynny!
I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost at cath@ffotogallery.org