Digwyddiad / 9 Chwef 2023

The Newport Intervention: We Are Here, Because You Were There

Mark Seymour, Dylan Moore, Dr Sara de Jong

Dewch i ymuno â ni yng Nglan yr Afon ar Ddydd Iau 9 Chwefror, 6pm – 8.30pm, pan fyddwn yn dod â’n harddangosfa bresennol We Are Here, Because You Were There i Gasnewydd drwy gyfrwng trafodaethau a gosodiad taflunio.

Mae hon yn argoeli i fod yn noson ddiddorol lle gallwn ganolbwyntio ar sefyllfa’r cyfieithwyr o Affganistan oedd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wedi i’r lluoedd tramor ymadael gan ddod i ymgartrefu ym Mhrydain. Mae croeso i bawb ymuno â ni a’n helpu i barhau â’r sgwrs.

Dyma amserlen y noson:

6pm – Croeso – Cyntedd Glan yr Afon

6.15 – 6.30pm – Gosodiad awyr agored: Ymunwch â ni wrth y Don Ddur i weld tafluniad o ffilm fer a grewyd o luniau a sain o’r arddangosfa. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar ochr adeilad Glan yr Afon.

6.45 - 7.45pm – Trafodaeth panel – Adsefydliad Cyfieithwyr Affganaidd ym Mhrydain a Chasnewydd fel Dinas Noddfa.

Bydd y caffi’n agored wedyn i gael bwyd a diod.

Trwy gydol y noson hefyd, bydd yr artist Stephanie Roberts yn cynnal gweithdy creu mosaig y gallwch alw i mewn iddo i’w fwynhau yn rhad ac am ddim.

Proffil Artistiaid

Portread o Mark Seymour

Mark Seymour

Mae Mark wedi byw yng Nghasnewydd ers 27 mlynedd. Gweithiodd yn broffesiynol fel Athro Arweiniol mewn ysgol amlddiwylliannol yng Nghaerdydd am 25 mlynedd. Sefydlodd Mark y Sanctuary yn 2005 i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i ailadeiladu eu hymdeimlad o gymuned a pherthyn yng Nghasnewydd. Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan The Gap Wales, elusen leol fechan o Gasnewydd, wedi’i leoli yn Stow Hill ac mae’n cynnig amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau llesiant cyfannol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n mwynhau beicio, garddio, gwylio rygbi ac mae'n frwd iawn dros fynd i'r afael ag anghyfiawnder.

Portread o Dylan Moore

Dylan Moore

Mae Dylan Moore yn sylwebydd toreithiog ar gyfryngau a diwylliant Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n arwain gwaith polisi’r cyfryngau ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig ac mae wedi golygu’r cylchgrawn the welsh agenda ers 2014. Mae ei newyddiaduraeth a’i sylwebaeth ddiwylliannol wedi ymddangos yn eang, gan gynnwys yn y Times Educational Supplement, Daily Telegraph, Vanity Fair ac ar BBC Radio 4 a Radio 1Xtra.

Llyfr diweddaraf Dylan yw’r nofel Many Rivers to Cross, a enillodd Ysgoloriaeth Deithio Cymdeithas yr Awduron 2022. Mae’r llyfr yn rhannol seiliedig ar ei brofiadau yn gwirfoddoli ac yn gweithio yn y Sanctuary Project i ffoaduriaid yng Nghasnewydd, ac mae’n ymwneud â mudo o Ethiopia.

Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Driving Home Both Ways, sy’n gasgliad o draethodau teithio, yn 2018 – yr un flwyddyn yr enillodd Dylan Gymrodoriaeth Ryngwladol Gŵyl y Gelli.

Mae Dylan yn byw gyda'i deulu yng Nghaerdydd.

Portread o Dr Sara de Jong

Dr Sara de Jong

Mae Dr Sara de Jong yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Efrog, ac mae hi’n ymchwilio amddiffyniad ac ailgartrefu cyfieithwyr Afghanistanaidd a gyflogir gan fyddinoedd y Gorllewin. Ers 2017, mae hi wedi cynnal mwy na 80 o gyfweliadau gyda chyfieithwyr ac eiriolwyr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Almaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Hi hefyd yw un o sefydlwyr yr elusen Sulha Alliance, sy’n eirioli dros gyfieithwyr o Afghanistan a weithiodd i Luoedd Arfog Prydain.