Arddangosfa / 6 Chwef – 8 Maw 2020

The Place I Call Home - Edinburgh

Mae The Place I Call Home yn cyrraedd Summerhall yng Nghaeredin ym mis Chwefror yn rhan o’r amserlen deithio sy’n cynnwys deg safle mewn saith gwlad. Mae’r arddangosfa, dan ofalaeth David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Wales, yn dangos gwaith gan 15 o ffotograffwyr ac artistiaid o’r byd Arabaidd a’r Deyrnas Unedig. Mae’r gweithiau’n archwilio’r thema ‘cartref’ drwy straeon am ddiwylliant a threftadaeth sy’n herio ystrydebau ac yn taflu golau ar y gwahaniaethau a’r elfennau sy’n debyg i’w gilydd. Mae’r arddangosfa yn rhoi ffocws arbennig ar fywydau, profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc mewn byd dynamig sy’n newid yn gyflym lle mae pobl yn teithio fwy a chanddynt fwy o gysylltiadau byd-eang nag erioed o’r blaen.

Enillodd y ffotograffydd Albanaidd Gillian Robertson ei Diploma Uwch mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Napier Caeredin, cyn sefydlu busnes ffotograffiaeth llewyrchus. Bedair blynedd yn ôl, symudodd i Ras Al Khaimah yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig gyda’i gŵr a’i merch. Enw prosiect Robertson ar gyfer The Place I Call Home yw ‘Melting Boundaries’ ac mae’n archwilio elfennau rhyngddiwylliannol a pherthnasoedd sydd wedi ffurfio rhwng diwylliannau pobl Prydain a’r Emiraethau o fewn yr ardal lle mae hi wedi creu ei chartref.

Cafodd yr artist Prydeinig-Indonesaidd Ben Soedira ei fagu yn Dubai, a phan oedd yn ddeunaw oed symudodd i’r Alban i astudio ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Glasgow. Mae’n dal i fyw yn Glasgow heddiw. Mae prosiect Soedira, ‘Foreign Sands’, yn cylchdroi o amgylch y syniadau o berthyn a theimlo fel tramorwr, gan gwestiynu beth sy’n gwneud i ni deimlo’n gartrefol pan fyddwn ni’n cael ein diwreiddio o le sy’n gyfarwydd. Mae’n cyfleu manylion y dirwedd ddinesig i ddangos sut mae pobl yn symud o amgylch dinas fodern Dubai a sut maen nhw’n dylanwadu ar ei datblygiad.

Mae’r arddangsofa hefyd yn cynnwys ffilm, ffotograffiaeth a llyfrau gwaith artist gan Zahed Sultan (Kuwait/DU), Hassan Meer (Oman), Eman Ali (Oman/DU), Sara Al Obaidly (DU/Qatar), Mashael Al Hejazi (Qatar), Moath Alofi (Saudi Arabia), Mohammed Al-Kouh (Kuwait), Hussain Almosawi a Mariam Alarab (Bahrain), Ammar Al-Attar (Emiraethau Arabaidd Unedig), Abi Green (Qatar/DU), Sebastian Betancur-Montoya (Qatar/Colombia), Josh Adam Jones (DU/Oman) a Richard Allenby-Pratt (DU/ Emiraethau Arabaidd Unedig).