Arddangosfa / 30 Meh – 17 Gorff 2021

Unseen

Suzie Larke

Mae Unseen / Anweledig yn defnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i gyfleu profiadau grŵp o gyfranogwyr wrth iddynt wynebu cyfnod anodd. Gan ddefnyddio delweddaeth adeiladol, mae Suzie yn pwytho ffotograffau gyda’i gilydd mewn modd digidol fel eu bod yn ymddangos fel un ddelwedd unigol, heb unrhyw ymyrraeth. Trwy ddefnyddio ‘realaeth hudol’ i drawsnewid ffotograffau sy’n cymryd profiad cyffredin a’i ogwyddo, mae hi’n creu delweddau sy’n dehongli’r profiad goddrychol o frwydro gyda lles meddyliol.

Amcan y prosiect hwn yw helpu pobl i fynegi eu profiadau trwy gyfrwng ffotograffiaeth gysyniadol. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth a thrafodaeth ynghylch lles meddyliol, a’n huno ni yn y sylweddoliad bod pawb yn mynd drwy gyfnodau anodd – ac yn llwyddo i’w goresgyn.

Proffil Artist

Portread o Suzie Larke

Suzie Larke

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Ers iddi ennill gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002, mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a phortreadau.

Yn ei ffotograffiaeth celfyddyd gain mae hi’n archwilio themâu megis hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae ddiddordeb Suzie mewn cynrychioli cyflwr mewnol yn hytrach na dal moment mewn amser. Mae hi’n creu delweddau sy’n herio ein syniad o realiti – gan gyfuno ffotograffau i greu delwedd sy’n herio rhesymeg.