Digwyddiad / 15 Gorff 2021

Unseen - Premiere Ffilm + Sgwrs Artist

Suzie Larke

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni’n bersonol neu ar-lein ar Ddydd Iau 15 Gorffennaf o 7pm, ar gyfer sgriniad cyntaf Unseen, a thrafodaeth panel am arddangosfa Suzie Larke, a materion sy’n codi o’r prosiect.

Yn ymuno â Suzie ar y panel bydd y seicolegydd Annie Beyer a Jo Verrent, uwch gynhyrchydd yn Unlimited, a bydd cyfle i gyfrannu at drafodaeth gyda chyfarwyddwr Unseen, Ian Smith.

Mae Unlimited yn rhaglen gomisiynu’r celfyddydau a’i nod yw cynnwys gwaith gan artistiaid anabl yn sectorau diwylliannol y DU a’r rhai rhyngwladol, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a newid canfyddiadau am bobl anabl. Maen nhw’n cynnig cyllid ar gyfer ymchwil a datblygiad, i sicrhau bod prosiectau mawr a bach yn digwydd yn y DU ac o amgylch y byd, ac mae ganddyn nhw wobrau i artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac sy’n newydd i gelfyddyd, sydd newydd gychwyn eu gyrfaoedd neu sydd heb gyrraedd cynulleidfaoedd mawr eto. Maen nhw hefyd yn ariannu comisiynau mawr a chomisynau a grëwyd drwy gydweithio rhyngwladol.

Mae Auntie Margaret yn gynhyrchwyr cynnwys i ffilmiau, teledu a fideo, gan ddelweddu cynnwys rhyfeddol dan arweiniad Ian Smith. Gweithiodd yntau yn y BBC am fwy na 10 mlynedd lle bu’n cynhyrchu amrywiaeth o fformatau, ffilmiau a rhaglenni dofgen yn cynnwys Wales and Hollywood, How The Co-op Started, Homelessness: On the Edge, Weird Wales a The One Show.

Bydd y drysau ar gyfer y digwyddiad ffisegol yn agor am 7pm a bydd y digwyddiad yn cychwyn am 7:30pm. Mae nifer y tocynnau’n gyfyngedig felly archebwch cyn hir!

Neu mewngofnodwch ar-lein drwy Zoom am 7:30pm ar y 15fed, lle byddwn yn ffrydio’r digwyddiad cyfan yn fyw. I ymumno gyda ni, cliciwch fan hyn.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad ac fe wnawn ein gorau i’ch cefnogi.

Proffil Artist

Portread o Suzie Larke

Suzie Larke

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Ers iddi ennill gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002, mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a phortreadau.

Yn ei ffotograffiaeth celfyddyd gain mae hi’n archwilio themâu megis hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae ddiddordeb Suzie mewn cynrychioli cyflwr mewnol yn hytrach na dal moment mewn amser. Mae hi’n creu delweddau sy’n herio ein syniad o realiti – gan gyfuno ffotograffau i greu delwedd sy’n herio rhesymeg.