Arddangosfa / 4 Maw – 9 Ebr 2022

What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase

Edgar Martins

What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase
© Edgar Martins
What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase
© Edgar Martins
What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase
© Edgar Martins

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 3 Mawrth, 6pm

Mae Yr hyn sydd gan Ffotograffiaeth a Charchariad yn Gyffredin â Fâs Wag yn gorff amlweddog o waith a ddatblygwyd o gydweithrediad â Grain Projects a Charchar Ei Mawrhydi Birmingham (y carchar categori B mwyaf yn y DU yng Nghanolbarth Lloegr), y carcharorion yno, eu teuluoedd yn ogystal â myrdd o fudiadau ac unigolion lleol eraill.

Gan ddefnyddio cyd-destun cymdeithasol carchariad fel dechreubwynt, mae Martins yn archwilio’r cysyniad athronyddol o absenoldeb, ac yn mynd i’r afael ag ystyriaeth ehangach statws y ffotograff pan fo cwestiynau ynghylch gwelededd, moeseg, estheteg a dogfennaeth yn croestorri.

Trwy gydweddu’n gynhyrchiol delwedd a thestun, ffotograffiaeth newydd a hanesyddol, tystiolaeth a ffuglen, nod gwaith Martins yw craffu sut mae rhywun yn delio ag absenoldeb anwylyd, pan fo ymwahaniad wedi ei orfodi arnynt. O safbwynt ontolegol mae’n ceisio atebion i’r cwestiynau canlynol: sut mae rhywun yn cynrychioli testun sy’n osgoi cael ei delweddu, sy’n absennol neu’n guddiedig? Sut gall ffotograffiaeth ddogfennol, mewn oes o newyddion ffug, gydnabod orau ddimensiwn dychmygus a ffuglennol ein perthynas â ffotograffau?

Trwy roi llais i garcharorion a’u teuluoedd a chyfarch carchar fel set o berthnasau cymdeithasol yn hytrach na gofod corfforol yn unig, mae gwaith Martins yn mynd ati i ailfeddwl a gwrthweithio’r math o ddelweddau a gysylltir fel arfer â charcharu.

Mae’r prosiect felly yn fwriadol osgoi delweddau sydd â’r unig ddiben, yn ôl dadl Martin, o gadarnhau’r tybiaethau sydd eisoes yn bodoli o fewn ideoleg drechaf ynglŷn â throsedd a chosb: trais, cyffuriau, troseddoldeb, hil – ymagwedd sydd yn gwneud dim mwy nag atgyfnerthu’r weithred o dynnu lluniau a ffotograffiaeth ei hun fel dyfeisiau apotropäig

Mae’r prosiect hwn yn nodi trawsnewidiad sylweddol yn nhaflwybr creadigol Martins, gan arwyddo tueddiad cynyddol tuag at bersbectif ehangach, mwy hybrid a rhyngddisgyblaethol ar ddelweddau.

Proffil Artist

Portread o Edgar Martins

Edgar Martins

Ganed Edgar Martins yn Évora (Portiwgal) ond fe’i magwyd yn Macau (Tsieina), ble cyhoeddodd ei nofel gyntaf, sef Mãe deixa-me fazer o pino. Yn 1996 symudodd i’r DU, gan gwblhau BA mewn Ffotograffiaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol y Celfyddydau, yn ogystal ag MA mewn Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn y Coleg Celf Brenhinol (Llundain).

Mae ei waith i’w weld yn rhyngwladol mewn sawl casgliad uchel eu proffil.

Mae Edgar Martins wedi arddangos yn eang mewn sefydliadau megis PS1 MoMA (Efrog Newydd), MOPA (San Diego, UDA), Centro de Arte Moderna (Lisbon) MAAT (Lisbon), CIAJG (Guimarães, Portiwgal), Centro Cultural Hélio Oiticica (Rio de Janeiro), The New Art Gallery Walsall (Walsall, DU), The Gallery of Photography (Dulyn), Ffotogallery (Penarth, Cymru), Open Eye Gallery (Lerpwl), New Walk Gallery, Caerlŷr, The Herbert Museum & Art Gallery, a’r Geneva Photography Centre, ymhlith sawl un arall.

Yn 2010, llwyfannodd y Centre Culturel Calouste Gulbenkian (Paris) arddangosfa ôl-dremiol gyntaf Edgar Martins.

Edgar Martins oedd enillydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Efrog Newydd (categori Celfyddyd Gain, Mai 2008), BEZ Photo Prize (Portiwgal, 2009), Gwobr Ffotograffiaeth y Byd SONY (2009; 2018), gwobr 1af yng nghategori Celfyddyd Gain–Haniaethol Gwobrau Ffotograffiaeth Rhyngwladol 2010, gwobr 1af yr European Photography Call 2020 yn yr Hangar Centre, a’i enwebu ar gyfer y Priz Pictet 2020 yn ogystal â Gwobr Meitar am Ragoriaeth mewn Ffotograffiaeth yn 2020 & 2021.

Derbyniodd ei lyfr cyntaf —Black Holes & Other Inconsistencies—Wobr Llyfr Celf Thames & Hudson a Chymdeithas y Coleg Celf Brenhinol. Hefyd yn 2003 derbyniodd ddetholiad o ddelweddau o’r llyfr yma ddyfarniad Gwobr Ffotograffiaeth Jerwood.

Cyrhaeddodd Yr hyn sydd gan Ffotograffiaeth a Charchariad yn Gyffredin â Fâs Wag Edgar Martins restr fer Gwobrau Sefydliad Photo-Aperture Paris yn ogystal â Gwobrau Llyfrau Lluniau PhotoEspaña yn 2020.

Fe’i dewiswyd i gynrychioli Macau (Tsieina) yn 54fed Biennale Fenis.