Arddangosfa / 25 Ion – 23 Chwef 2019

Where Time Stood Still

Amak Mahmoodian

Where Time Stood Still
© Amak Mahmoodian

Fe gyrhaeddodd ffotograffiaeth i Iran yn fuan wedi iddo gael ei ddyfeisio yn Ewrop. Yn ôl Tahmasbpoor (‘Photographer Naser al-Din Shah’, 2002) fe dynnwyd y ffotograff cyntaf o berson yn Iran mor gynnar â 1844 (1260 yn ôl calendr Iran), sef portread ffotograffig o’i deulu gan un o frenhinoedd Qajar, Naser al-Din Shah.

Yn 2004 fe ymwelais ag amgueddfa Golestan, a bues yn gwneud gwaith ymchwil yn yr archifau yno am ddwy flynedd wedi hynny. Cedwir Archifau Golestan yng nghanol dinas Tehran – lleoliad a fu unwaith yn gartref i’r Qajariaid, gwragedd y brenin, menywod yr Harîm a’u perthnasau. Fe benderfynais ddefnyddio rhai o’r ffotograffau hanesyddol yma o gyfnod y Qajar gan ddewis nifer o luniau o deyrnas y Brenin. Fe ddefnyddiais i’r ffotograffau hynny fel masgiau.

Yn fy ymarfer, rwy’n dewis adrodd fy stori wrth ddefnyddio straeon pobl eraill. Maen nhw’n bobl a fu’n byw mewn gorffennol pell, ond mae eu bywydau a’u straeon yn dal yn rhan o’r presennol. Wrth fwrw fy ngolwg yn ôl i’r gorffenol fe ddes i sylweddoliad am bwy ydw i heddiw.

Ond pa wynebau fyddai’n cael eu cuddio y tu ôl i’r masgiau hanesyddol yma? Fe ddechreuais drwy dynnu lluniau’r bobl o fy nghwmpas – pobl roeddwn i’n eu gweld bob dydd. Fy nheulu. Fy nheyrnas. Mae masgiau’r gorffennol yn gyfrwng i chwedloni’r absenoldeb a’r presenoldeb sydd yn fy ngwaith. Mae’r masgiau yma’n tystio i fasgiau fy mywyd a’m côf.

Heddiw, 10 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n golygu’r delweddau hyn ac yn golygu fy atgofion a fy mywyd.

Mae’r dyhead sydd ynof am fy nghartref a’r galar yn sgil cael fy ngwahanu oddi wrtho’n creu naratif newydd, a hwnnw bellach yw naratif fy mywyd.

Mae’r gobaith o gael dychwelyd wedi trawsnewid fy lluniau; maen nhw’n lluniau o bobl rwy’n eu caru, yn gweld eu heisiau ac wedi eu colli.

Er bod testunnau’r lluniau yma’n dangos masgiau’r gorffennol, maen nhw eu hunain hefyd yn dal i fod yno o’n blaenau. Maen nhw’n bresennol. Fe allai unrhyw un wisgo’r masgiau yma ac fe allai unrhyw un droi yn fasg hefyd.

Amak Mahmoodian
Ionawr 2019

Proffil Artist

Portread o Amak Mahmoodian

Amak Mahmoodian

Ganed yr artist Amak Mahmoodian yn Shiraz. Bellach mae’n byw ym Mryste. Yn 2015 fe gwblhaodd ddoethuriaeth yn seiliedig ar ymarfer ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn hynny bu’n astudio ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Tehran. Mae ei gwaith yn herio syniadau Gorllewinol am hunaniaeth trwy gyfryngu straeon personol sy’n adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach ac yn ffrwyth ei phrofiadau yn y Dwyrain Canol, Asia a’r Gorllewin. Derbyniodd ei harddangosfa ddiwethaf, Shenasnameh, glod rhyngwladol a chafodd ei dangos ledled y byd. Enillodd y gyfrol ffotograffig a gyhoeddwyd i gyd-fynd â’r arddangosfa honno nifer o wobrau a chlod mewn cyhoeddiadau mor amrywiol â chylchgrawn Time, Lensculture a chylchgrawn Foam. Yn ogystal ag ymroi i’w hymarfer artistig ei hunan, mae Amak Mahmoodian hefyd yn guradur. Yn rhinwedd arddangosfa deithiol Ffotogallery, ‘Bi nam – Image and Identity in Iran’, bu’n gyfrifol am gyflwyno egin-artistiaid a ffotograffwyr o Iran am y tro cyntaf yn Ewrop a dangos gwaith nad oedd wedi gadael Iran cyn hynny.