Digwyddiad / 19 Tach 2022

Y Wal Goch - Sgwrs

Anthony Jones

Y Wal Goch - Sgwrs
© Anthony Jones

Ymunwch â’r ffotograffydd dogfennol Anthony Jones yn Ffotogallery ar Ddydd Sadwrn 19 Tachwedd i sgwrsio am ei waith diweddar Y Wal Goch.

Y Wal Goch yw’r ymadrodd y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod fel enw cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae’r prosiect, sydd â’r un enw, yn mynd ati i archwilio’r cefnogwyr hyn. Mae hon yn rhaglen ddogfennol sy’n edrych ar gefnogwyr pêl-droed Cymru, y diwylliant, a’r angerdd y maent wedi dod yn adnabyddus amdano bron drwy’r byd i gyd. Trwy ganolbwyntio’n bennaf ar y cefnogwyr, mae’n olwg hanfodol ar y diwylliant a’r angerdd sydd gan gefnogwyr Cymru am y gêm. Yn ystod y sgwrs, bydd Anthony’n trafod y diwylliant a’r angerdd hwn yn ogystal â’r ffordd y llwyddodd i gael y ffotograffau a ddefnyddiwyd yn y prosiect.

Proffil Artist

Portread o Anthony Jones

Anthony Jones

Fy enw yw Anthony Jones ac rwy’n ffotograffydd dogfennol. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar Gymru, diwylliant Cymreig o gerddoriaeth i chwaraeon, a bywyd cefn gwlad/pob dydd. Rwy’n hoffi dangos angerdd, pobl mewn eiliad hollol naturiol, pobl mewn sefyllfa pob dydd, yn ogystal â materion amgylcheddol.

Astudiais ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru a Met Caerdydd lle magais gariad at ffotograffiaeth ddogfennol.