Believing is Seeing

Mae’r gyfrol hon, a gyhoeddwyd ar achlysur yr arddangosfa Believing is Seeingyn Ffotogallery (10 Tachwedd – 17 Rhagfyr 2011) yn canolbwyntio ar waith saith artist o Korea, sydd bob un yn mabwysiadu ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â ffotograffiaeth gyfoes neu waith ffotograffig ei sail. Gan ganolbwyntio ar rai o themâu cyffredin celf ffotograffig gyfoes Korea – ei natur berfformiadol, syniadau o barhad a byrhoedledd, natur a realiti gwneuthuredig, cof a rhith – mae’r cyhoeddiad yn amlygu ar y themâu a archwiliwyd yn yr arddangosfa gyda thestunau curadurol gan David Drake (Ffotogallery) a Jiyoon Lee (Project ac Academi SUUM).

Mae’r term ‘Junsinsajo’ a ddefnyddir yn y traddodiad peintio portreadau Koreaidd yn dynodi atgynhyrchu siâp ac ysbryd rhywun. Mae hyn yn golygu na chyfyngir gwneud ffotograff o rywun i atgynhyrchu tebygrwydd corfforol, ond y dylai hefyd ymgorffori hanfod eu personoliaeth. Gan wyrdroi’r ymadrodd Gorllewinol ‘seeing is believing’, mae’r arddangosfa’n cynnwys artistiaid amrywiol iawn eu ffyrdd o bortreadu yn ffotograffig, ond sydd oll yn gwrthod unrhyw ffordd o fynd ati sy’n pwysleisio gwireddu gweledol ac atgynhyrchu mecanyddol yn unig.