High-rise

Daeth troad y mileniwm â diddordeb a hyder o’r newydd mewn codi datblygiadau o adeiladau uchel iawn yn y rhan fwyaf o brif ddinasoedd y byd, er gwaethaf digwyddiadau byd-eang o bwys a oedd yn bygwth tanseilio’u llwyddiant. Yn High-rise mae Peter Bobby yn archwilio’r disgwrs cymdeithasol-wleidyddol, pensaernïol a gweledol o gwmpas yr adeiladau hyn gan ddefnyddio cyfuniad o ddelweddau llonydd a symudol, mewnol ac allanol.

Mae’r cyhoeddiad hwn, sydd ar groesffordd ddisgyrsiol rhwng celf, pensaernïaeth, ffotograffiaeth a phynciau’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig dinesig, yn dwyn ynghyd ddelweddau o Zenith a High-rise, y darnau fideo Curtain, Divide, Blind ac Untitled (Audio Guide), yn ogystal â nifer o ddelweddau gosodwaith o bedair sioe unigol o’r gwaith yn y DU. Archwilir y gwahanol gyd-destunau arddangos hyn ymhellach mewn tri thraethawd cysylltiedig gan yr Athro Kim Dovey, Dr Robin Wilson a Dr Liam Devlin, sydd bob un yn ystyried y gwaith mewn perthynas â’u disgyblaethau a’u diddordebau penodol eu hunain. Rhagair gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery.

Project Ffotogallery ar y cyd â Chanolfan Bensaernïaeth Bryste, a Theatr Genedlaethol Lloegr, Llundain. Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, eCPR (y Ganolfan Ymchwil Ffotograffig Ewropeaidd) a Phrifysgol De Cymru.