Lost For Words

Mae Lost for Words, canlyniad ymweld â llu o wahanol safleoedd diddorol ledled Cymru, yn crisialu ysbryd y wlad yn ffordd unigryw Peter Fraser. Gan i Fraser gael ei eni a’i fagu yng Nghymru, mae’r project hwn yn neilltuol o bwysig iddo o safbwynt atgofion plentyndod.

Mae’r ffotograffiaeth newydd yn fenter wahanol ar yr ystyr ei bod yn ymhyfrydu yn yr artiffisial a’r rhithiol – byd yr amgueddfa, bydoedd eraill, modelau o fydoedd. Mae i lawer o’r lluniau ansawdd breuddwydiol o ganlyniad. Nid yw celf Fraser yn bloeddio; mae’n gynnil, yn ddisgrifiadol, yn sylwgar, yn ddirgel, yn breifat ac yn annisgwyl yn aml. Mae ei ffotograffiaeth yn gofyn cwestiynau am ein perthynas â’r byd, ac mae’r byd sy’n ymagor yma yn aml yn ddieithr, yn llawn ffantasïau, rhithiau ac ofnau.

Mae Fraser bellach wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio film, a’r gwaith yma yw achlysur ei dröedigaeth at y digidol, proses sydd wedi rhoi mwy o ryddid ac amrywiaeth iddo – nid o ran trin y lluniau, ond o safbwynt rhwyddineb darlunio pethau yn y byd.

Comisiwn a chyhoeddiad Ffotogallery.