No Place Like Home

Roedd No Place Like Home yn broject celfyddydau unigryw a esgorodd ar gyhoeddiad, arddangosfa a gosodwaith sain yn hosteli digartref canol dinas Caerdydd, Tŷ Tresilian a’r Huggard – a oedd i’w dymchwel yn 2011 i wneud lle i gyfleuster newydd sbon i bobl ddigartref. Galluogodd y project y preswylwyr, staff a defnyddwyr y gwasanaeth i archwilio a gwneud synnwyr o’u perthynas gydag amgylchedd corfforol yr adeiladau hyn cyn eu colli, a thystio i’w swyddogaeth hanfodol gyda phobl ddigartref Caerdydd dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Canlyniadau cyfnod preswyl haf cyfan gan yr artist ffotograffig Faye Chamberlain yw’r llyfr a’r CD sy’n gydymaith iddo: mae’r delweddau lliw treiddgar o fywyd cudd yr adeilad a dynnwyd gan staff a defnyddwyr gwasanaethau, ynghyd â gwaith yr artist sain Chris Young, y lluniwyd ei gyfansoddiadau atgofus yn gyfan gwbl o recordiadau o fewn muriau’r hostel, yn ein dwyn i mewn i berthynas ddyfnach a mwy emosiynol â’r adeiladau hyn a’u preswylwyr. Mae’r ddau’n darparu’r cyd-destun i gyfres atgofus Faye Chamberlain o bortreadau du-a-gwyn o bobl ddigartref Caerdydd.