Wonder Chamber

Mae Karen Ingham yn artist sy’n ymddiddori’n fawr yn y gwyddorau naturiol ac effaith syniadau a phrosesau gwyddonol ar greu delweddau cyfoes. Mae Wonder Chamber yn crynhoi sawl corff o waith a gynhyrchwyd ganddi yn y degawd diwethaf ar ffurf “amgueddfa ddychmygol gyda’i gofodau cysylltiedig ar gyfer arddangos gwrthrychau ac arteffactau a ymddengys yn anghymharus ac yn eclectig”. Elfen allweddol yng ngwaith Ingham yw gwyrdroi’r ffordd y caiff gwrthrychau eu casglu, eu harchifo a’u harddangos mewn amgueddfeydd gwyddonol, a’u defnyddio i ddibenion celf gyfoes

Ynghyd ag archwilio syniadau a ffenomenâu gwyddonol cynharach, mae Ingham yn coleddu posibiliadau creadigol technolegau creu deleddau digidol. Trwy edrych ymlaen ac edrych yn ôl ar hanes gwyddoniaeth, mae gwaith Ingram yn ein hatgoffa fod cynnydd gwyddonol yn dibynnu llawn cymaint ar ddychymyg a chreadigrwydd ag ar ffiseg a mathemateg. Gan fynd i’r afael â gwyddoniaeth a dynwared ac ailgreu ei syniadau a’i dulliau yn chwareus, mae’r artist yn taflu goleuni ar y broses gymhleth o ffurfiant technegol, biolegol a diwylliannol sy’n llunio’n dyfodol a diffinio profiad dynol.

Traethodau gan David Drake, Ken Arnold a Karen Ingham. Cyhoeddwyd i gyd-daro â’r arddangosfa Karen Ingham: WonderChamber yn Ffotogallery 10 Mawrth — 14 Ebrill 2012.