Works on Memory

Casgliad o draethodau a delweddau sy’n crynhoi’r deng mlynedd diwethaf o waith gan yr artist o Bortwgal, Daniel Blaufuks yw Works on Memory, a gyhoeddwyd ar achlysur ei arddangosfa ynFfotogallery (14 Ionawr – 25 Chwefror 2012). Mae fformat ddu-a-gwyn trawiadol y llyfr wedi ei seilio ar ddyluniadau gan y cyhoeddwyr FfrengigSérie Noire a gyhoeddai nofelau ditectif yn y 1950au.

Mae Daniel Blaufuks yn artist sydd dan gyfaredd prosesau’r cof – sut y byddwn yn creu ystyr yn ein bywydau trwy grynhoi manylion ac olion, o weddillion meddyliol ac ôl-ddelweddau ein bodolaeth feunyddiol.

Mae Blaufuks yn ymddiddori nid yn unig yn y ffordd mae ffotograffiaeth a ffilm yn newid fel cyfryngau, ond hefyd yn ein dulliau o archifo, storio ac adennill gwybodaeth – ein gallu i gofio. Mae ei ddelweddau ffotograffig o ganiau ffilm, tapiau casét, stribedi a negyddion ffilm selwloid ac ati yn ein hatgoffa, wrth i bob ‘costrel atgofion’ analog gael ei disodli gan ddatblygiadau technolegol newydd, y medr ein gallu i gofnodi data gynyddu’n aruthrol, ond y collir rhywbeth yn y broses hefyd. Â llygad craff, sylwa Blaufuks ar y newidiadau esblygiadol hyn yn y ffordd y gwnawn, y dosbarthwn ac y darllenwn ddelweddau, yn chwilfrydig am ddeall sut bydd ein cof yn y dyfodol yn wahanol. I Blaufuks, mae ffotograffiaeth yn fwy nag ysgogiad i adennill atgofion o’r gorffennol. Cof yw ffotograffiaeth.

Yn cynnwys traethodau gan David Drake, David Campany, Filipa Oliveira, Mark Durden, Derrick Price ac Eileen Little.