January Pick Me Up Photo Essay Challenge
Hello all!
The holidays will soon be with us and then we will look to celebrating the new year!
After all the festivities, January can be hard for some of us as we wait for the days to lengthen again and the sun to appear more often. So for a third year, we are running our January Wellbeing Photography Project where we will offer a focus to help us stay uplifted through the month, with positive, mindful prompts for photographs that we will deliver each week of January 2025.
We will issue a prompt on the Wednesday of each of the 5 weeks in January starting on the 1st (4 full weeks and three days in week 5). The themes will follow the 5 themes of mindfulness and we invite you to create a photo essay that explores the theme for each new week with as many or as few photographs as you would like to capture.
Each week we will issue the theme for that coming week across our online platforms. Having a week to think about each theme will give you time to consider how you could illustrate that concept through photography. Your photographs could be personal or look outwards, you might like to include text through poetry or prose, you could include some mixed media if you’d like to and you can interpret the themes in whichever way seems right for you. The first weekly prompt will be posted on Wednesday 1st January.
We have created a Facebook Group where you can share your photographs throughout the month with a community of other photographers who are all taking part too.
https://www.facebook.com/groups/654981359399590/
If you’re not on Facebook, you can upload your photographs to our shared folder.
Participants Photos
https://drive.google.com/.../16ElexWeM1YAAB006Pgg6mwZ5NvW...
We are really looking forward to seeing how everyone interprets each theme and the wonderful work created! We hope that having an uplifting focus through January can help us all to start the New Year with a positive outlook for 2025!
(Please ensure that you own all copyright to any work submitted. By submitting your work to us you are giving permission for the work to be shared across our online platforms. Please include your name in the title of each file submitted.)
Helo bawb!
Bydd y gwyliau’n cyrraedd cyn hir ac wedyn byddwn eisiau dathlu’r flwyddyn newydd!
Yn dilyn yr holl ddathliadau, gall mis Ionawr fod yn anodd i rai ohonom wrth i ni aros i’r dyddiau ymestyn eto ac i’r haul ymddangos yn amlach. Felly, am y drydedd flwyddyn bellach, rydym yn cynnal ein prosiect Ffotograffiaeth Codi Calon Mis Ionawr lle byddwn yn cynnig ffocws i helpu i godi calonnau pawb drwy gydol y mis. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi promptiau cadarnhaol ac ystyrlon i chi ar gyfer tynnu lluniau bob wythnos yn ystod mis Ionawr 2025.
Byddwn yn cyhoeddi prompt ar y Dydd Mercher ymhob un o 5 wythnos mis Ionawr, yn dechrau ar y 1af (4 wythnos lawn a thri diwrnod yn wythnos 5). Bydd y themâu yn dilyn 5 thema ymwybyddiaeth ofalgar ac rydym yn eich gwahodd i greu traethawd ffotograffau sy’n archwilio’r thema ar gyfer pob wythnos newydd ac ynddo gynifer neu gyn lleied o ffotograffau ag y byddech yn hoffi eu tynnu.
Bob wythnos byddwn yn cyhoeddi’r thema ar gyfer yr wythnos honno ar bob un o’n platfformau ar-lein. Bydd gennych wythnos i feddwl am bob thema felly mae hyn yn rhoi amser i chi ystyried sut y gallech ddangos y syniad hwnnw drwy ffotograffiaeth. Gallai eich ffotograffau fod yn bersonol neu edrych tuag allan, efallai yr hoffech gynnwys testun drwy farddoniaeth neu ryddiaith, gallech gynnwys rhai cyfryngau cymysg os hoffech wneud hynny a gallwch ddehongli’r themâu ym mha ffordd bynnag sy’n teimlo’n iawn i chi. Byddwn yn postio’r prompt wythnosol cyntaf ar Ddydd Mercher 1af Ionawr.
Rydym wedi creu Grŵp Facebook lle gallwch rannu eich ffotograffau drwy gydol y mis gyda chymuned o ffotograffwyr eraill sy’n cymryd rhan hefyd.
https://www.facebook.com/groups/654981359399590/
Os nad ydych ar Facebook, gallwch lwytho eich ffotograffau i’r ffolder a rannwn.
Ffotograffau Cyfranogwyr
https://drive.google.com/.../16ElexWeM1YAAB006Pgg6mwZ5NvW...
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae pawb yn dehongli pob thema a’r gwaith gwych a fydd yn cael ei greu! Gobeithio y bydd ffocws sy’n codi’r galon drwy gydol mis Ionawr yn gallu ein helpu ni i ddechrau’r Flwyddyn Newydd gydag agwedd gadarnhaol ar gyfer 2025!
(Cofiwch wneud yn siŵr mai gennych chi mae’r hawlfraint i unrhyw waith a gyflwynwch. Trwy gyflwyno eich gwaith i ni rydych yn rhoi eich caniatâd i’r gwaith gael ei rannu ar draws ein platfformau ar-lein. Cynhwyswch eich enw yn nheitl pob ffeil a gyflwynwch.)
Photo by Wendy Wei: https://www.pexels.com/.../illuminated-numbers-on-studio.../