Shadowing Opportunity for Women and Non-Binary artists

Gallery Technician shadowing at Ffotogallery

Ever wanted to find out more about what goes on behind the scenes in a gallery between shows, and develop skills in the process?

Ffotogallery are looking for emerging artists and photographers who identify as female or non-binary, who have an interest in learning more about what happens between exhibitions at contemporary art spaces, to get hands-on experience in gallery technician work.

This opportunity might be ideal for someone who has an interest in working as a Gallery Technician, or who might just want to learn more about the practical side of exhibition installation or changeover. 

We will be refurbishing Ffotogallery from 12-16 May, and will be using this opportunity for change as a way to introduce more people into the behind-the-scenes of exhibition making, and build skills and confidence in working in this male-dominated field. It is our hope that people who take part in this opportunity may be interested in working with us and other galleries across Wales and further afield in the future.

Deadline for expressions of interest is 11:59pm on Thursday 1 May. We will get in touch with selected expressions of interest on Friday 2 May. We are looking for 2-3 individuals for this opportunity, who will receive a £40 p/day stipend equivalent to apprenticeship wages.

Complete the form below to express your interest in this opportunity:

https://forms.gle/zWZiz43hR26DJqpa9 

****

Cyfle i Gysgodi ar gyfer Artistiaid sy’n Ferched / Anneuaidd



Cysgodi Technegydd Oriel yn Ffotogallery

Ydych chi erioed wedi eisiau dysgu rhagor am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn oriel rhwng sioeau, a datblygu sgiliau yn y broses?

Mae Ffotogallery yn chwilio am artistiaid a ffotograffwyr newydd, sy’n uniaethu fel merched neu’n anneuaidd, ac sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am yr hyn sy'n digwydd rhwng arddangosfeydd mewn lleoliadau celf gyfoes, i gael profiad ymarferol o waith technegydd oriel.

Gallai'r cyfle hwn fod yn ddelfrydol i rywun sydd â diddordeb mewn gweithio fel Technegydd Oriel, neu a allai fod eisiau dysgu rhagor am ochr ymarferol y gwaith o osod neu newid arddangosfa. 

Byddwn yn adnewyddu Ffotogallery rhwng 12 a 16 Mai, a byddwn yn defnyddio'r cyfle hwn o newid fel ffordd o gyflwyno mwy o bobl i'r hyn sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni wrth baratoi arddangosfeydd. Bydd hefyd yn gyfle i feithrin sgiliau a hyder pobl wrth weithio yn y maes hwn sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion. Ein gobaith yw y bydd gan bobl sy'n cymryd rhan ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ac orielau eraill ledled Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.

Y dyddiad cau i fynegi diddordeb yw 11:59pm ddydd Iau 1 Mai. Byddwn yn dewis ac yn cysylltu â’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb ddydd Gwener, 2 Mai. Rydyn ni’n chwilio am 2–3 unigolyn ar gyfer y cyfle hwn. Byddan nhw’n cael £40 y dydd fel tâl sy'n cyfateb i gyflogau prentisiaeth.

Ymrwymiad:

12–16 Mai, 10am–4pm (ac egwyl i ginio)

Ffi a delir i unigolion: £40 y dydd


Llenwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn y cyfle hwn:

https://forms.gle/zWZiz43hR26DJqpa9 


Previous
Previous

FROM THE ARCHIVE : April Update

Next
Next

Opportunity : ESRC-funded PhD Studentship on The Valleys Archive at Ffotogallery - Community, Photography & Democracy in South Wales, 1978-2028