More Than A Number copy

Imagining the Nation State

Various Artists

© Huw Alden Davies

Cyflwyniad

Yn 2020, aeth Sefydliad Chennai Photo Biennale ati, mewn cydweithrediad â Ffotogallery/Gŵyl Diffusion, a gyda chefnogaeth British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, i lansio Galwad Agored am grant er mwyn i ffotograffwyr ac artistiaid y lens preswyl o India a Chymru allu cyflwyno cynigion ar y thema – Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth.

Adolygwyd a detholwyd y ceisiadau gan reithgor nodedig o artistiaid a churaduron - Monica Narula, Raqs Media Collective a Sheba Chhachhi o India, a Damarice Amao – Curadur Cynorthwyol Ffotograffiaeth, Centre Pompidou o Ffrainc ynghyd â’r trefnwyr, Shuchi Kapoor o Sefydliad Chennai Photo Biennale a David Drake o Ffotogallery/Diffusion, Cymru.

Canlyniad y cydweithredu hwn rhwng Sefydliad CPB a Ffotogallery oedd cyfanswm o bum dyfarniad grant yn lle’r pedwar a gynlluniwyd yn wreiddiol, i alluogi i ffotograffwyr/artistiaid y lens gynhyrchu gwaith ar eu prosiectau arfaethedig – prosiectau a dderbyniodd eu harddangosfa ffisegol gyntaf ym mis Hydref 2021 yn rhan o bumed gŵyl eilflwydd Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru.

Beirniaid

Yr hyn oedd gan y Beirniaid i’w ddweud am y thema

"Mae’r argyfyngau yr ydym yn byw ynddynt heddiw – pandemig, mudo, tensiynau geowleidyddol, cwestiynnu cydraddoldeb hil a rhyw, oll yn tanseilio fwy nag erioed sylfeini’r syniad o ‘genedl-wladwriaeth’ sy’n deillio o’r 19eg ganrif. Ar yr un pryd, mae’r tensiynau hyn yn datgelu awydd dwys parhaol i adeiladu cymuned y tu hwnt i ffiniau neu hyd yn oed yn syml iawn gyda’n cymdogion yn ein hadeilad neu’n hardal. Pa hanesion sensitif a symbolaidd all unigolion eu datgelu a’u rhannu gan y cymunedau hyn sy’n bodoli’n barod a’r rheiny sydd i ddod?"

Damarice Amao

“Mae ‘Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth’ yn caniatáu i ni agor cwestiynau am gyfiawnder, a lleoliad, yn y byd. Mae dychmygu hyn yn awr yn her angenrheidiol, oherwydd mae ein byd hynod gyfnewidiol gyda’i rwydwaith o gysylltiadau yn lle rhyfedd o ran ei bresenoldeb a’i ddiflaniad

Monice Narula, Raqs Media Collective

"Rydym yn byw mewn cyfnod o newid mawr ar bob lefel – yn ecolegol, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a phersonol – ac mae’r pandemig wedi rhoi ffocws llym ar broblemau strwythurol o dan yr wyneb, sy’n nodweddiadol o argyfwng systemig oedd yn bodoli’n barod. Yn fyd-eang, mae gwladwriaethau a phoblogaethau wedi ymateb i hyn drwy fesurau awdurdodaidd poblyddol a thrwy ail adeiladu cenedlaetholdeb. Yn India, rydym yn gweld, trwy ddefnydd digynsail o ddulliau’r cyfryngau, greu hanes am Genedl Hindŵaidd eang ddychmygol sy’n amlwg wahanol i ddychmygion blaenorol y genedl. Credaf fod y gwahoddiad i ymgysylltu’n gritigol â chwestiynau am y genedl, gwladwriaethau a hunaniaeth yn amserol ac yn arwyddocaol."

Sheba Chhachhi - Artist, Ysgrifennwr

Explore

Artistiaid