The Skater

Wendy McMurdo yw un o artistiaid lens blaenllaw’r DU, sydd wedi datblygu arfer ffotograffig ac eiconograffiaeth unigryw sy’n archwilio’r rhan mae technolegau digidol yn ei chwarae mewn creu hunaniaeth, yn enwedig mewn perthynas â byd seicolegol plant a phobl ifanc. Mae ei chorff newydd o waith, The Skater, wedi ei ysbrydoli gan beintiad Syr Henry Raeburn, Reverend Robert Walker Skating on Duddingston Loch a ystyrir gan lawer yn ddelwedd nodweddiadol o oleuedigaeth yr Alban. Mae delwedd McMurdo o’r sglefriwr yn cyflwyno motiff atgofus tebyg. Fodd bynnag, mae ei gwaith yn adlewyrchu golwg lai iwtopaidd, gan archwilio effaith technoleg rithwir ar fywydau pobl ifanc. Cwblheir y gyfres gan bortreadau trawiadol o ‘gêmwyr’ ifanc, ciplun o genhedlaeth wedi ymgolli mewn profiadau a gyfryngir trwy gyfrifiadur. Ar y cyd â’r gwneuthurydd ffilmiau Paul Holmes, mae’n archwilio byd trofaus lle mae ffantasi’n llithro i mewn i realiti ac yn ôl eto yn ei ffilm gyntaf, The Loop, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn Ffotogallery.

Cyhoeddwyd gan Ffotogallery fel comisiwn i nodi ei 30ain mlwyddiant.