Prosiect

Cymru yn Fenis

Cymru yn Fenis
© Helen Sear

Y cyflwyniad ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 yw …the rest is smoke gan yr artist Helen Sear, Digwyddiad Cyfochrog ym 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia.

Cyfres o weithiau newydd yw …the rest is smoke, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a guradwyd gan Ffotogallery. Fe’u crewyd ar gyfer pum gofod ar wahân yn y Santa Maria Ausiliatrice, eglwys a chyn-gwfaint yn ardal Castello yn Fenis, lle dangosir hwy.

© Helen Sear

Bu gan Ffotogallery berthynas faith gyda’r artist, gan gyhoeddi monograff adolygol deng mlynedd ar hugain Sear, Inside The View, yn 2012, ac rydym wedi arddangos ei gwaith ar sawl achlysur blaenorol, yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice, penododd Ffotogallery y curadur annibynnol Stuart Cameron a’r curadur cynorthwyol/rheolydd project Kathryn Standing i’n tîm. Cameron oedd curadur arddangosfa fawr gyntaf yr artist yng Nghymru, a thyfodd eu perthynas dros ddeng mlynedd ar hugain, gan esgor ar sail gref o barch a hyder yn ei gilydd. Bu cydberthynas guradurol Cameron gyda’r artist, a’i sensitifrwydd i’r syniadau a’r ysgogiadau creadigol yn ei gwaith, yn hanfodol i ddatblygu a gwireddu’r project hwn.

Fel sy’n gweddu i broject cyfochrog, mae …the rest is smoke wedi ei wreiddio yn nhirwedd leol a chyfarwydd Cymru ond mae hefyd yn ymateb i gyd-destun ehangach Biennale Fenis. Ar gyfer y 56ed Biennale di Venezia, dewisodd y curadur Okwui Enwenzor y thema ‘Holl Ddyfodolion y Byd’, gan archwilio’r berthynas rhwng celf a datblygiad y byd dynol, cymdeithasol a gwleidyddol. Er na ddatblygwyd …the rest is smoke fel ymateb penodol i’r thema hon, mae’n cyd-daro’n dda â hi. Mae ansoddau affeithiol y gwaith yn gweithredu i dynnu’r gwyliwr i mewn i ofod rhithiol y ddelwedd, mewn dialog â phensaernïaeth y gofod y lleolir y gwaith ynddo, gan aflonyddu ar y persbectif un-safbwynt er mwyn cyflwyno tirweddau a’u perthynas â’r corff dynol fel rhywbeth ymdrochol a chymhleth.

© Helen Sear

Ar gyfer project ar-lein Profi Cymru yn Fenis, sy’n gydymaith i’r arddangosfa, mae’n bleser gennym gydweithio’n glòs ag artistiaid dethol rhaglen Goruchwylwyr Plws CCC. Yn ogystal â chreu gwefan ynglŷn â Helen Sear a’r arddangosfa, rydym yn gweithio gyda’r pymtheg artist i ddogfennu eu profiadau unigol o Gymru yn Fenis. Bydd cyfoeth o adnoddau ar gael i gynulleidfaoedd ar-lein, fel cyfweliadau ag artistiaid, cofnod o esblygiad yr arddangosfa yn ogystal â gweithdai ysgolion y gellir eu lawrlwytho. Yn ychwanegol at waith ffantastig y goruchwylwyr yn Fenis, gobeithiwn y bydd y wefan yn cynnig mewnweliad newydd i’r gynulleidfa ac yn cyfrannu at ddialog beirniadol rhyngwladol ynglŷn â gwaith Helen.

2015.experiencewalesinvenice.org