Newyddlen mis Medi

CYHOEDDI ARDDANGOSWYR FFOCWS 2023
Yn dilyn llwyddiant y gyfrol gyntaf, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Ffocws yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni. Wedi i ni archwilio sioeau graddedigion o sefydliadau addysg uwch ar draws y wlad, gallwn gyhoeddi yn awr bod deg prosiect rhagorol gan fyfyrwyr sy’n graddio wedi eu dethol i gael eu cynnwys mewn arddangosfa grŵp, sy’n agor ar 23 Tachwedd.
Hefyd, bydd pedwar o artistiaid eraill yn dangos eu gwaith ochr yn ochr â’r graddedigion a ddewiswyd yn rhan o Fenter Ffotograffiaeth Higgins, mewn partneriaeth â Cardiff MADE. Byddent wedi eu cefnogi i ddatblygu eu llwybr gyrfaol a’u harferion drwy raglen datblygu proffesiynol chwe mis wedi ei theilwra, sy’n cynnwys cyfres o sgyrsiau, beirniadaeth gan gymheiriaid a mentora gan ffotograffwyr proffesiynol.
---
Ffocws 2022 Alumni - Ada Marino
Rydym wrth ein boddau’n clywed gan ein Cyn-arddangoswyr Ffocws am y pethau maen nhw’n eu gwneud erbyn hyn, ac roedd yn wych clywed bod Ada Marino wedi cael ei dewis ar gyfer Fresh Eyes 2023!
Mae Fresh Eyes yn dathlu’r ddawn ffotograffiaeth orau yn Ewrop. Mae’n llyfr arweiniad sy’n cyflwyno’r 100 gwneuthurwr delweddau gorau sy’n dod i’r amlwg ar y Cyfandir. Llongyfarchiadau Ada!
---

Sgwrs artistiaid ar-lein gyda Fatoumata Diabaté
3 Hydref, 6pm
Dysgwch ragor am waith Fatoumata Diabaté drwy’r sgwrs ar-lein hon â’r artist ar 3 Hydref. Agorodd arddangosfa Fatoumata L’homme en objet / en animal et Nimissa – cydweithrediad rhwng Oriel Elysium a Ffotogallery – yr wythnos diwethaf yn Abertawe ac mae’n parhau tan 28 Hydref. Mae’r sgwrs ar-lein hon yn Ffrangeg a darperir is-deitlau Saesneg.

Feeling at Home (Arddangosfa Dros Dro)
11 - 21 Hydref
Mae Feeling at Home yn arddangos gwaith gan 19 o ffotograffwyr gydag anableddau dysgu ledled Brighton a Llundain. Maen nhw wedi bod yn cwrdd mewn grwpiau bach i fyfyrio ar y pethau sy’n eu helpu i deimlo’n gartrefol, a beth sy’n rhwystr hynny. Mae’r arddangosfa’n rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y byd drwy lygaid pobl sydd ag anableddau dysgu, ac i fyfyrio ar eu hymatebion eu hunain i’r gwaith hwn. Gwelwch gipolwg o’r sioe ar 10 Hydref pan fyddwn yn agor rhwng 11am a 1pm ar gyfer ein Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf!

Gweminar Photovoice
18 Hydref, 6 - 8pm
Bydd Dr Deborah Chinn, ymchwiliwr arweiniol ar gyfer yr astudiaeth Feeling at Home, yn cyflwyno ‘photovoice’, sef dull datblygu cymuned ac ymchwil cyfranogol lle bydd pobl yn dweud eu straeon, yn rhannu eu profiadau, ac yn gweithio tuag at wella eu bywydau drwy ffotograffiaeth. Bydd y sesiwn ar-lein hwn o ddiddordeb i artistiaid a ffotograffwyr sydd eisiau defnyddio dulliau cyfranogol i gynnwys aelodau o’r gymuned yn eu harferion, a grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n chwilfrydig ynglŷn â sut y gallent ddefnyddio ffotograffiaeth gyfranogol i ddod â newid cymdeithasol.

Lluniau ar Dudalennau
20 Hydref 1 - 4 pm, USW Atrium
Mae’r digwyddiad newydd yma ar Ddydd Gwener 20 Hydref yn weithgaredd dwymo ar gyfer ein Ffair Ffotolyfrau ein hunain y diwrnod wedyn, ac mae’n ceisio archwilio mwy o gydweithio rhwng ffotograffwyr, dylunwyr graffeg a phobl greadigol eraill i ysgogi arbrofi mewn cyflwyno cyhoeddiadau ffotograffiaeth newydd yng Nghymru. Bydd trafodaeth banel hefyd am rôl ffoto-sînau a llyfrau bach fel cyfryngau dysgu gwerthfawr ar gyfer cysylltiadau’r dyfodol gyda chyhoeddwyr.

Ffair Ffotolyfrau
21 Hydref, 12 - 4pm
Rydym wedi trefnu amrywiaeth wych o ddalwyr stondinau – mae’n bleser gennym groesawu Cylchgrawn Nawr, Offline Journal, Ipigeon, Ffoto Newport, 2tenbooks, Prifysgol De Cymru a mwy.
Hoffech chi’r cyfle i gyflwyno eich ffotolyfr – waeth pa gam o’i greadigaeth y mae arno – i gynulleidfa? Cofrestrwch i gael slot o 5 munud yn ein ‘Cyflwyniad Cyflym am Ffotolyfrau’ galw heibio. Rydym eisiau i’r cyflwyniadau cyflym hyn am ffotolyfrau fod yn gyfle i artistiaid greu cysylltiadau dros eu gwaith, canfod pobl greadigol newydd i fod yn aelodau o’r gynulleidfa a mireinio eu syniadau eu hunain.

Pink Portraits Revisited
25 Hydref - 4 Tachwedd
I gyd-fynd â’r Wobr Iris flynyddol sy’n digwydd bob mis Hydref, byddwn yn cynnal arddangosfa dros dro yn cynnwys Pink Portraits Revisited. Bu Dylan Lewis Thomas yn tynnu lluniau’r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol LHDTC+ sy’n gweithio tu ôl i’r camera yn y gyfres hon ar ôl cael ei ddewis drwy alwad agored a gynhaliwyd ar y cyd gan Ffotogallery ac Iris ddiwedd y flwyddyn y llynedd.
Gallwch hefyd ymuno â ni Ddydd Iau 26 Hydref i weld sgrinio Goreuon Gwobr Iris o 2023.
Efaillai hefyd yr hoffech:
Creative Cuppa
Mae Creative Cardiff yn cynnal cyfarfod misol i artistiaid, busnesau a gweithwyr creadigol llawrydd, o’r enw 'Creative Cuppa'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd ar gyfer y tri C hollbwysig - cysylltu, creadigedd a caffein.
creativecardiff.org.uk
Arddangosfa: Teulu Blaenafon
Yn rhedeg tan ddiwedd mis Hydref, Neuadd y Gweithwyr Blaenafon. Dyddiau Llun, Mawrth a Gwener 10am - 1pm. Dydd Llun - Gwener 6pm-8pm. Dydd Sadwrn 10am - 1pm.
Mae Teulu Blaenafon yn arddangosfa newydd o ffotograffau gyda llyfr i gyd-fynd ag o (y gallwch ei brynu’n uniongyrchol gan yr artist) o archif gyfoethog Walter Waygood – un o ffotograffwyr Ffotogallery a gyfranodd i’n Prosiect y Cymoedd yn ôl yn yr 1980au.
Galwad Gyhoeddus am Gelf y Gaeaf
Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n gwahodd ceisiadau ar hyn o bryd gan unigolion, grwpiau cymunedol a/neu sefydliadau celf cymunedol sydd wedi eu seilio yng Nghymru i greu gosodwaith graddfa fawr i ddathlu tymor y Gaeaf.
wmc.org.uk
Bwrsariaeth The Natural Eye
Mae’n bleser gan y gymdeithas artistiaid bywyd gwyllt SWLA gyhoeddi bod y ceisiadau’n agored yn awr ar gyfer Bwrsariaeth The Natural Eye 2023. Mae dyfarniadau o hyd at £750 ar gael i artistiaid sy’n cyflwyno cynigion rhagorol i wneud prosiectau annibynnol, ymchwil neu hyfforddiant mewn gwaith celf sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt fel prif bwnc.
O ddiddordeb pellach
-
DigwyddiadGweminar Photovoice - Dr Deborah Chinn
-
ArddangosfaPink Portraits Revisited (Pop-Up Exhibition)
-
DigwyddiadFfair Llyfrau Ffotograffau
-
ArddangosfaL'homme en objet et en animal / Nimissa - Elysium Gallery
Fatoumata Diabaté -
ArddangosfaFeeling at Home
-
DigwyddiadDydd Mawrth Te a Theisen: The Bells of Santiago