Sianel / 14 Meh 2018

Prosiect y Cymoedd: Rhwng Ffotograff ac Atgof

Golwg chwareus ond gwybodus ar Brosiect y Cymoedd Ffotogallery gan y Dr Paul Cabuts, un o'r prif awdurdodau yng Nghymru ar hanes ffotograffig Cymoedd De Cymru. Mae Paul yn ffotograffydd ac yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Sefydlwyd Prosiect y Cymoedd gan Ffotogallery ym 1984. Bellach mae casgliad Archif y Cymoedd yn cynnwys dros 450 o brintiau gan 10 o ffotograffwyr - portread hynod o ardaloedd yn Ne Cymru yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol a diwydiannol.