Newyddlen mis Awst

LockDownRenga
Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gymryd rhan yn LockDownRenga, sef cyfres newydd o weithdai ffoto-farddoniaeth ar-lein i artistiaid sy’n gwarchod, sydd dan risg uchel neu sy’n ynysu. Yn rhedeg y gweithdai mae’r artistiaid David Sinden a Kate Woodward ac, mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, bydd chwe gweithdy LockDownRenga, gweithdy barddoniaeth gyda’r bardd a’r perfformiwr Mel Perry, a chyfres o adnoddau disgrifiad clywedol wedi eu recordio gan yr artist clyweledol cyfoes Zoe Partington.
Llun © David Sinden

Gwyliwch: Ffotograffiaeth ac Iaith
Os golloch chi ein trafodaeth ar-lein ddiweddar Ffotograffiaeth ac Iaith, mae’r digwyddiad ar gael i’w wylio ar-lein yn awr. Mae Cyfarwyddwr Ffotogallery, David Drake yn ymuno â Michal Iwanowski a Marcelo Brodsky i drafod eu gwaith cyfathrebu gweledol a grëwyd yn ystod y cyfnod clo, ac Alina Kisina, artist, addysgwr ac ieithydd yn ôl ei hyfforddiant, i drafod sut mae dimensiwn ar-lein ei phrosiect byd-eang Children of Vision yn grymuso pobl ifanc i rannu eu gweledigaeth unigryw o’r byd.
Llun © Michal Iwanowski

Yr Artist dan Sylw ym mis Awst
Pob mis byddwn yn troi’r sbotolau ar artistiaid dethol o’n cronfa ddata Rhagolygon Ewropeaidd. Yr artist dan sylw fis yma yw’r newydd-ddyfodiad diweddaraf i’r platfform, Pauline Rowan. Gyda’i chefndir mewn Celfyddyd Gain, mae ei gwaith sydd wedi ei seilio’n bennaf ar gyfryngau’r lens yn cynnwys elfennau dogfennol yn ogystal ag elfennau cydweithredol a pherfformiadol. Agorwch y ddolen isod i weld lluniau o’i gwaith ‘Under a Vaulted Sky’ lle gweithiodd Rowan yn agos â chymuned fach o bobl gan archwilio eu perthynas â lleiandy nad yw’n gysegredig bellach a’i erddi gadawedig oedd oll ar fin cael eu chwalu.
Llun © Pauline Rowan
Efallai bod gennych ddiddordeb hefyd mewn:

The Muse of the Greenhouse
Cewch glywed gan artistiaid a churadur yr arddangosfa yn Oriel Ffotograffau Kaunas. Mae The Muse of the Greenhouse yn rhan o’r prosiect A Woman’s Work sydd wedi ei ariannu gan Ewrop Greadigol.

Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth
Rydym bellach wedi ymestyn ein dyddiad cau ar gyfer ein galwad agored yn y bartneriaeth gyda Chennai Photo Biennale. Cyflwynwch eich cynnig cyn 30 Medi.

Platfform Ffotogallery
Ac yn awr ar ein Platfform Ffotogallery rydym yn croesawu Lefteris Paraskevaidis, ffotograffydd sy’n byw ac yn gweithio yn Athen, Groeg. I ganfod rhagor ynglŷn â gwneud cais am eich sesiwn meddiannu Instagram eich hun, defnyddiwch y ddolen isod.
Llun © Lefteris Paraskevaidis
Mwy o wybodaeth

Comisiwn Gwaith Celf Chapter
Mae Chapter yn ail agor yr hydref hwn, ac i ddathlu hynny maen nhw’n comisiynu artist i greu gwaith newydd ar gyfer y bocs golau ar flaen yr adeilad. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Medi, 8pm.

Rhaglen Mentoriaeth CATALYST
Mae CATALYST yn rhaglen mentoriaeth saith mis i chwe ffotograffydd ar ddechrau eu gyrfa greadigol, wedi’i chynhyrchu gan IC Visual Lab mewn cydweithrediad â Gŵyl Ffoto Bryste. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Medi.

Galwad Agored FORMAT21
Mae’r Ŵyl Format yn derbyn cynigion gan ffotograffwyr rhyngwladol, curaduron, artistiaid a chydweithfeydd. Y thema eleni yw rheolaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Medi.